RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Adroddiadau blynyddol
19Adroddiadau blynyddol: atodol
(1)
Wrth baratoi pob adroddiad blynyddol, caiff y Comisiynydd ymgynghori—
(a)
â'r Panel Cynghori, a
(b)
ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.
(2)
Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(3)
Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blynyddol, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
archwilio pob adroddiad blynyddol a gyflwynir iddynt, a
(b)
gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.