RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Adroddiadau blynyddol

18Adroddiadau blynyddol

(1)

Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob un o flynyddoedd ariannol y Comisiynydd (“adroddiad blynyddol”).

(2)

Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn—

(a)

crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd;

(b)

adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg;

(c)

crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;

(d)

cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;

(e)

crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â'r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran 14.

(3)

Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'n briodol eu cynnwys yn yr adroddiad yn nhyb y Comisiynydd.

(4)

Am ddarpariaeth ynghylch blwyddyn ariannol y Comisiynydd, gweler paragraff 15 o Atodlen 1.