(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad รข'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.
(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 154 mewn grym ar 9.2.2011, gweler a. 156(1)(b)