RHAN 11ATODOL
154Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad รข'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.
(2)
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.