RHAN 10STRATEGAETH IAITH GYMRAEG GWEINIDOGION CYMRU
149Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal corff a enwir yn Gyngor Partneriaeth y Gymraeg (ac y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Cyngor Partneriaeth”).
(2)
Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Cyngor Partneriaeth—
(a)
pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg (ac ef sydd i gadeirio'r Cyngor Partneriaeth), a
(b)
aelodau wedi eu penodi gan Weinidogion Cymru o blith—
(i)
Gweinidogion Cymru,
(ii)
Dirprwy Weinidogion Cymru,
(iii)
personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad o faterion yn ymwneud â'r Gymraeg, a
(iv)
personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad sy'n berthnasol i unrhyw un neu ragor o'r materion sydd wedi eu rhestru yn is-adran (6).
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pŵer i apwyntio aelodau o'r Cyngor Partneriaeth o dan is-adran (2)(b)(iii) a (iv), ystyried y ffaith ei bod yn ddymunol bod aelodaeth y Cyngor Partneriaeth yn adlewyrchu graddau amrywiol defnyddio'r Gymraeg gan drigolion Cymru.
(4)
Mae trefniadaeth y Cyngor Partneriaeth i'w rheoleiddio gan reolau sefydlog sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru ar ôl iddynt ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth.
(5)
Caiff y rheolau sefydlog ddarparu pwy sydd i gadeirio'r Cyngor Partneriaeth yn absenoldeb pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
(6)
Caiff y Cyngor Partneriaeth—
(a)
roi cyngor neu gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y strategaeth iaith Gymraeg a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gan gynnwys y cynllun sy'n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn cyflawni'r cynigion a nodwyd yn y strategaeth), a
(b)
gwneud unrhyw beth sy'n briodol ym marn y Cyngor at ddibenion rhoi'r cyngor hwnnw neu gyflwyno'r sylwadau hynny.