RHAN 9BYRDD IAITH GYMRAEG, CYNLLUNIAU IAITH GYMRAEG ETC
143Diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo swyddogaethau
(1)
Diddymir Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
(2)
Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
(3)
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 154 sy'n darparu i'r swyddogaethau hynny gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny).
(4)
Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
(5)
Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
(a)
adran 1;
(b)
adran 2;
(c)
adran 4(2);
(d)
adran 34(2);
(e)
Atodlen 1.