141Dehongli'r Bennod honLL+C
Yn y Bennod hon—
ystyr “achwynydd” (“complainant”)—
(a)mewn perthynas ag ymchwiliad o dan Ran 5, yw'r person (os oes person) y cyfeirir ato fel “P” yn adran 93;
(b)mewn perthynas ag ymchwiliad o dan Ran 6—
(i)yw'r person y cyfeirir ato fel “P” yn adran 111; a
(ii)yw'r person y cyfeirir ato fel “R” yn adran 111;
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a)aelod o gyngor cymuned, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;
(b)Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)Aelod Seneddol;
(d)aelod o Dŵ'r Arglwyddi;
(e)Aelod o Senedd Ewrop;
ystyr “person a ddiogelir” (“protected person”), mewn perthynas ag ymholiad neu ymchwiliad, yw unrhyw un neu ragor o'r personau canlynol—
(a)aelod o'r Panel Cynghori;
(b)cynrychiolydd;
(c)person sy'n destun yr ymholiad neu'r ymchwiliad;
(d)person y mae'r Comisiynydd yn cyfathrebu ag ef at ddiben cael gwybodaeth mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;
(e)yr achwynydd;
(f)person sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (c) i (e).
ystyr “ymchwiliad” (“investigation”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a)ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4;
(b)ymchwiliad o dan Ran 5 (cydymffurfedd â gofynion perthnasol);
(c)ymchwiliad o dan Ran 6 (ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg);
ystyr “ymholiad” (“inquiry”) yw ymholiad o dan adran 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 141 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 141 mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(o)
I3A. 141 mewn grym ar 7.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(e)