RHAN 8CYFFREDINOL
PENNOD 2DIFENWI
141Dehongli'r Bennod hon
Yn y Bennod hon—
ystyr “achwynydd” (“complainant”)—
(a)
mewn perthynas ag ymchwiliad o dan Ran 5, yw'r person (os oes person) y cyfeirir ato fel “P” yn adran 93;
(b)
mewn perthynas ag ymchwiliad o dan Ran 6—
- (i)
yw'r person y cyfeirir ato fel “P” yn adran 111; a
- (ii)
yw'r person y cyfeirir ato fel “R” yn adran 111;
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a)
aelod o gyngor cymuned, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;
(b)
Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)
Aelod Seneddol;
(d)
aelod o Dŵ'r Arglwyddi;
(e)
Aelod o Senedd Ewrop;
ystyr “person a ddiogelir” (“protected person”), mewn perthynas ag ymholiad neu ymchwiliad, yw unrhyw un neu ragor o'r personau canlynol—
(a)
aelod o'r Panel Cynghori;
(b)
cynrychiolydd;
(c)
person sy'n destun yr ymholiad neu'r ymchwiliad;
(d)
person y mae'r Comisiynydd yn cyfathrebu ag ef at ddiben cael gwybodaeth mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;
(e)
yr achwynydd;
(f)
person sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (c) i (e).
ystyr “ymchwiliad” (“investigation”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a)
ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4;
(b)
ymchwiliad o dan Ran 5 (cydymffurfedd â gofynion perthnasol);
(c)
ymchwiliad o dan Ran 6 (ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg);
ystyr “ymholiad” (“inquiry”) yw ymholiad o dan adran 7.