RHAN 8CYFFREDINOL
PENNOD 1UNIONDEB CYMERIAD
138Rheoliadau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)
pennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion y Bennod hon, a
(b)
gwneud darpariaeth arall at ddibenion y Bennod hon.
(2)
Caiff buddiannau cofrestradwy gynnwys, ymhlith pethau eraill, buddiannau personau y mae cysylltiad rhyngddynt a deiliaid swyddi perthnasol (boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu o unrhyw fath arall).
(3)
Yn yr adran hon ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys buddiannau ariannol, a phob gweithgaredd a swydd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).