RHAN 8CYFFREDINOL
PENNOD 1UNIONDEB CYMERIAD
136Gwrthdrawiadau buddiannau
(1)
Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.
(2)
Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo'r swyddogaeth honno (i'r graddau y bo'n angenrheidiol i alluogi'r gwaith hwnnw o'i harfer i gael ei wneud)—
(a)
i'r Dirprwy Gomisiynydd, neu
(b)
i aelod arall o staff y Comisiynydd.
(3)
Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Dirprwy Gomisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau i'r swyddogaeth gael ei harfer gan rywun heblaw'r Dirprwy Gomisiynydd.