RHAN 8CYFFREDINOL
PENNOD 1UNIONDEB CYMERIAD
135Cyhoeddi cofrestrau buddiannau
(1)
Rhaid i'r Comisiynydd—
(a)
sicrhau bod copi o gofrestr buddiannau pob deiliad swydd perthnasol ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
(b)
sicrhau y perir bod copïau o gofrestr buddiannau pob deiliad swydd perthnasol ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
(2)
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o gofrestrau buddiannau deiliaid swyddi perthnasol yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y cofrestrau.
(3)
Rhaid i'r Dirprwy Gomisiynydd roi i'r Comisiynydd—
(a)
copïau o gofrestr buddiannau'r Dirprwy Gomisiynydd, a
(b)
cymorth arall,
y gall y Comisiynydd ofyn amdanynt er mwyn ei alluogi i gydymffurfio â'r ddyletswydd o dan is-adran (1).