RHAN 8CYFFREDINOL

PENNOD 1UNIONDEB CYMERIAD

134Cofrestr buddiannau

(1)

Rhaid i bob deiliad swydd perthnasol greu a chynnal cofrestr buddiannau.

(2)

Rhaid i gofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol gynnwys ei holl fuddiannau cofrestradwy.

(3)

Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol lunio'i gofrestr buddiannau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(4)

Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol ddiweddaru ei gofrestr buddiannau'n barhaus.

(5)

Mae hynny'n cynnwys dyletswydd i gynnwys buddiant cofrestredig yn y gofrestr buddiant o fewn 4 wythnos i'r canlynol ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—

(a)

y buddiant yn codi, neu

(b)

y deiliad swydd perthnasol yn dod yn ymwybodol o'r buddiant (os yw hynny'n digwydd ar ôl i'r buddiant godi).