RHAN 7LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Materion gweinyddolLL+C

129Y sêlLL+C

(1)Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.

(2)Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 129 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 129 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2