RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
Y Tribiwnlys
121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y Tribiwnlys
(1)
Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.
(2)
Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.
(3)
Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—
(a)
o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a
(b)
o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.
(4)
Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.
(5)
Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.
(6)
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
(7)
Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—
(a)
y Llywydd, neu
(b)
aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.