RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Swyddogaethau

12Staff

(1)

O ran y Comisiynydd—

(a)

rhaid iddo benodi person yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Dirprwy Gomisiynydd”), a

(b)

caiff benodi staff arall sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.

(2)

Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at staff y Comisiynydd yn gyfeiriadau at y Dirprwy Gomisiynydd a staff arall.

(3)

Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau o staff y Comisiynydd.

(4)

Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)

Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)

pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

(6)

Rhaid i'r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer—

(a)

nifer y staff y caniateir eu penodi,

(b)

telerau ac amodau gwasanaeth y staff, ac

(c)

taliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5).

(7)

Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Dirprwy Gomisiynydd—

(a)

os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)

os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru y bydd y Comisiynydd yn methu â phenodi'r Dirprwy Gomisiynydd yn unol â'r adran hon.

(8)

Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Dirprwy Gomisiynydd gweler Pennod 1 o Ran 8.