RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

118Adroddiadau

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos lle y gwneir cais o dan adran 111.

(2)

Caiff y Comisiynydd lunio, a rhoi i Weinidogion Cymru, adroddiad ar—

(a)

y cais, a

(b)

y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i'r cais.

(3)

Rhaid i'r Comisiynydd roi copïau o unrhyw adroddiad o'r fath i P a D.

(4)

Caiff y Comisiynydd gyhoeddi—

(a)

adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)

fersiwn o'r adroddiad hwnnw, neu

(c)

dogfen arall sy'n ymwneud (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) â phwnc yr adroddiad hwnnw,

(“dogfen gyhoeddus”), ond dim ond os bodlonir yr amodau canlynol.

(5)

Yr amod cyntaf yw bod y Comisiynydd—

(a)

yn hysbysu P a D o'r bwriad i gyhoeddi dogfen gyhoeddus, a

(b)

cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn rhoi i P, D, neu i unrhyw berson arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn briodol, gyfle i roi i'r Comisiynydd farn am gyhoeddi dogfen gyhoeddus.

(6)

Yr ail amod yw—

(a)

bod P a D yn cytuno bod y ddogfen gyhoeddus yn cael ei chyhoeddi, neu

(b)

bod y Comisiynydd o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi.

(7)

Wrth bwyso a mesur a yw er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi, rhaid i'r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill—

(a)

buddiannau P a D, a

(b)

buddiannau unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol eu cymryd i ystyriaeth yn nhyb y Comisiynydd.

(8)

Yn achos unrhyw gais lle dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i ddogfen gyhoeddus beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.