RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

117Cwblhau ymchwiliadau

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)

os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, a

(b)

os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.

(2)

Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg ai peidio.

(3)

Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r Comisiynydd hefyd roi ei farn ar yr ymyrraeth (gan gynnwys ei farn ynghylch a ellid cyfiawnhau'r ymyrraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i'w farn ar hynny).

(4)

Cyn bod y Comisiynydd yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2) neu'n rhoi ei farn o dan is-adran (3), rhaid iddo—

(a)

hysbysu D o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei wneud ac o'r farn y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei rhoi, a

(b)

cyn belled ag y bo'n ymarferol, rhoi cyfle i D ymateb i'r dyfarniad ac i'r farn sydd yn yr arfaeth.

(5)

Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P a D—

(a)

o'r dyfarniad ar y cais a wnaed gan P, a

(b)

o'i farn ar yr ymyrraeth, os dyfarniad bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg yw'r dyfarniad.

(6)

Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad.

(7)

Caiff y Comisiynydd roi i P, D, neu i unrhyw berson arall gyngor ynghylch—

(a)

yr ymyrraeth honedig, neu

(b)

unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ymyrraeth honedig.