RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG
113Ymyrryd â rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg
(1)
At ddibenion y Mesur hwn, bernir bod D yn ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag R mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.
(2)
Achos 1 yw pan fo D yn mynegi na ddylai P neu R ymgymryd—
(a)
â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu
(b)
â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.
(3)
Achos 2 yw pan fo D yn mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu unrhyw berson arall) oherwydd bod P neu R wedi ymgymryd—
(a)
â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu
(b)
â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.
(4)
Achos 3 yw pan fo D, neu berson sy'n gweithredu ar anogaeth D, yn peri bod P neu R yn dioddef anfantais oherwydd bod P neu R wedi ymgymryd—
(a)
â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu
(b)
â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.
(5)
Ond, mewn achos sy'n dod o fewn is-adran (2)(b), (3)(b) neu (4)(b), dim ond i'r graddau y mae'r categori o gyfathrebiadau yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg y bernir bod D yn ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg.
(6)
At ddibenion is-adran (2), mae'r amgylchiadau lle y bernir bod D yn mynegi na ddylai P neu R ymgymryd â chyfathrebiad penodol, neu gategori o gyfathrebiadau, yn cynnwys yr amgylchiadau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(a)
mae D yn dweud wrth P neu R am beidio ag ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau,
(b)
mae D yn mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu unrhyw berson arall) os yw P neu R yn ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau, neu
(c)
mae D, neu berson sy'n gweithredu ar anogaeth D, yn peri bod P neu R yn dioddef anfantais mewn cysylltiad â bod P neu R yn ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau.
(7)
At ddibenion yr adran hon, mae'n amherthnasol—
(a)
a oes gan D neu unrhyw berson arall awdurdod i roi mynegiad ai peidio, a
(b)
a oes gan D neu unrhyw berson arall awdurdod i orfodi mynegiad ai peidio.
(8)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at fod P neu R yn dioddef anfantais yn cynnwys bygylu neu fwlio P neu R, aflonyddu arnynt neu eu bychanu.