RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

111Gwneud cais i'r Comisiynydd

(1)

Caiff unigolyn (P) wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag unigolyn arall (R) (“yr ymyrraeth honedig”).

(2)

Rhaid i gais o dan yr adran hon gydymffurfio â'r gofynion a ganlyn.

(3)

Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud cais yn ysgrifenedig.

(4)

Rhaid i'r cais roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).

(5)

Rhaid i'r cais—

(a)

ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a

(b)

ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymyrraeth honedig.