xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CGORFODI SAFONAU

PENNOD 8LL+CCYFFREDINOL

Dogfen polisi gorfodiLL+C

108Dogfen polisi gorfodiLL+C

(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio dogfen polisi gorfodi.

(2)Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi.

(3)Dogfen yw dogfen polisi gorfodi sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth ar y ffordd y mae'r Comisiynydd yn bwriadu mynd ati i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Rhan hon.

(4)Ni chaniateir i'r Comisiynydd lunio neu ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r ddogfen polisi gorfodi yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 108 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 108 mewn grym ar 25.3.2015 ar 16:00 gan O.S. 2015/985, ergl. 2