RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 7YCHWANEGU PARTI MEWN ACHOS
I1I2106Hawl i wneud cais i berson gael ei ychwanegu'n barti mewn achos
1
Mae'r adran hon yn gymwys—
a
os gwneir apêl i'r Tribiwnlys o dan adran 95(2) neu adran 99, a
b
os gwneir yr apêl honno mewn perthynas â dyfarniad a wnaed ar ôl ymchwiliad sy'n dilyn cwyn a wneir o dan adran 93.
2
Yn achos apêl o dan adran 95(2)—
a
rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu'r person a wnaeth y gŵyn (P) fod yr apêl wedi ei gwneud, a
b
caiff P wneud cais i'r Tribiwnlys i gael ei ychwanegu'n barti yn yr achos.
3
Mewn achos o'r fath, os ychwanegir P yn barti yn yr achos—
a
rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P o'i benderfyniad ar yr apêl, a
b
caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys o dan adran 97 ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad hwnnw.
4
Yn achos apêl a wneir o dan adran 99—
a
rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D fod yr apêl wedi ei gwneud, a
b
caiff D wneud cais i'r Tribiwnlys i gael ei ychwanegu'n barti yn yr achos.
5
Os ychwanegir D yn barti yn yr achos—
a
rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D o'i benderfyniad ar yr apêl, a
b
caiff D, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys o dan adran 101 ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad hwnnw.
6
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y caniateir gwneud cais o dan yr adran hon i berson gael ei ychwanegu'n barti mewn achos a'r amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais o'r fath).
7
Nid yw'r adran hon yn atal Rheolau'r Tribiwnlys rhag gwneud darpariaeth ynghylch personau eraill y caniateir eu hychwanegu'n barti mewn achos.