RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 6ADOLYGIAD GAN YR ACHWYNYDD
Adolygu methiant y Comisiynydd i ymchwilio i gŵyn
I1103Hawl P i gael adolygiad
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd o dan adran 93 ynglŷn ag ymddygiad D (“yr ymddygiad honedig”), p'un a yw'r gŵyn honno yn gŵyn ddilys o dan yr adran honno ai peidio.
2
Caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys, wneud cais i'r Tribiwnlys i adolygu penderfyniad y Comisiynydd mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion sydd wedi eu nodi yn yr adran hon.
3
Rhaid i'r Tribiwnlys, yn ddarostyngedig i adran 104, ymdrin â chais am adolygiad o'r fath fel pe bai'n gais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.
4
Rhaid i'r Tribiwnlys roi caniatâd i wneud cais pan fo'r Tribiwnlys o'r farn—
a
bod disgwyliad rhesymol y byddai'r cais yn llwyddo, neu
b
bod rhyw reswm cryf arall pam y dylai'r cais gael ei glywed.
5
Yr achos cyntaf y cyfeirir ato yn is-adran (2) yw—
a
pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a
b
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.
6
Yr ail achos yw—
a
pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a
b
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.
7
Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.
8
Y pedwerydd achos yw—
a
pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a
b
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.
9
Y pumed achos yw—
a
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, a
b
pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.
10
Rhaid i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
11
Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—
a
dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
b
os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i wneud cais ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
12
Caniateir i gais o dan is-adran (11) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
13
Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar gais o dan is-adran (2).
14
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir gwneud ceisiadau o dan yr adran hon).
15
Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y bu i'r Comisiynydd hysbysu P o'i benderfyniad o dan adran 94.