RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 5APELAU GAN YR ACHWYNYDD

Apelau yn erbyn dyfarniad nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon

102Dyletswydd y Comisiynydd pan wneir apêl gan P

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)

os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn cwyn o dan adran 93,

(b)

os gwneir apêl o dan adran 99 neu 101, neu os gwneir unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â'r ymchwiliad, ac

(c)

os nad yw D yn barti yn yr achos hwnnw.

(2)

Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 99, roi hysbysiad i D yn nodi'r canlyniad,

(b)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o apêl o dan adran 101, neu unrhyw apêl bellach, roi hysbysiad i D yn nodi bod yr apêl wedi ei gwneud, ac

(c)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 101 neu o ganlyniad apêl bellach, roi hysbysiad i D yn nodi'r canlyniad.