RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 5APELAU GAN YR ACHWYNYDD

Apelau yn erbyn dyfarniad nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon

100Pwerau'r Tribiwnlys pan wneir apêl gan P

(1)

Pan wneir apêl o dan adran 99, caiff y Tribiwnlys—

(a)

cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu

(b)

diddymu dyfarniad y Comisiynydd.

(2)

Os yw'r Tribiwnlys yn diddymu dyfarniad y Comisiynydd (y “dyfarniad gwreiddiol”), rhaid i'r Tribiwnlys gyfarwyddo'r Comisiynydd i ddyfarnu o dan adran 73 fod D wedi methu â chydymffurfio â'r safon (y “dyfarniad newydd”).

(3)

Os yw'r Tribiwnlys yn cyfarwyddo'r Comisiynydd o dan is-adran (2), rhaid i'r Comisiynydd ddirymu'r hysbysiad penderfynu a'r adroddiad ar ymchwiliad a roddwyd o dan adran 73 mewn perthynas â'r dyfarniad gwreiddiol.

(4)

Mae adran 73(3) a (4), a darpariaethau eraill y Mesur hwn, yn gymwys i'r dyfarniad newydd fel y maent yn gymwys i unrhyw ddyfarniad arall o dan adran 73.

(5)

Rhaid i'r adroddiad ar ymchwiliad a roddir o dan adran 73(3) mewn perthynas â'r dyfarniad newydd gynnwys datganiad bod y Comisiynydd wedi gwneud y dyfarniad newydd i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan y Tribiwnlys.

(6)

I'r graddau y mae adrannau 77, 78, 79, 82 ac 84 yn gymwys i'r dyfarniad newydd, maent yn ddarostyngedig i adran 86 ond nid i adran 85.