ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG

(a gyflwynwyd gan adran 2)

RHAN 1STATWS ETC

I1I1111Statws

1

Mae'r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

2

Nid yw'r Comisiynydd i'w ystyried yn was neu'n asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

3

Nid yw eiddo'r Comisiynydd i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal gan neu ar ran y Goron.

4

Wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â'r Comisiynydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo'n rhesymol bosibl wrth iddo benderfynu—

a

ar ei weithgareddau,

b

ar ei amserlenni, ac

c

ar ei flaenoriaethau.

I2I1122Dilysrwydd gweithredoedd

1

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

a

y person hwnnw, neu

b

unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

2

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy'n arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

a

y person hwnnw,

b

y Comisiynydd, neu

c

unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

RHAN 2PENODI

I3I983Penodi

1

Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

a

rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

b

rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

c

caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

a

os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

b

os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

3

Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

a

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

b

pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

c

aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

I4I1134Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i'r Comisiynydd.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i'r Comisiynydd.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau a fu'n Gomisiynydd neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n Gomisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

I5I1145Telerau penodi

1

Mae'r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

3

Rhaid i delerau penodi'r Comisiynydd ddarparu ei fod yn dal y swydd yn llawnamser.

I6I1156Cyfnod y penodiad

1

Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 7 mlynedd.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

I7I997Rheoliadau penodi

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).

2

Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—

a

cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a

b

gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.

3

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

4

Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.

5

Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—

a

gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a

b

gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.

6

Caiff rheoliadau penodi—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

7

Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

I8I1008Dirprwyo swyddogaethau penodi etc

1

Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—

a

darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—

i

swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a

ii

unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a

b

gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

RHAN 3TERFYNU PENODIAD

I9I1169Ymddiswyddo

Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Brif Weinidog Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.

I10I11710Anghymhwyso

Mae person yn peidio â bod yn Gomisiynydd os yw'n cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth.

I11I11811Diswyddo

Caiff Prif Weinidog Cymru ddiswyddo'r Comisiynydd os yw Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni o ran y Comisiynydd—

a

nad yw'n ffit i barhau fel Comisiynydd, neu

b

nad yw'n gallu neu nad yw'n fodlon arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

I12I11912Taliadau pan fydd yn peidio â dal y swydd

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson sy'n peidio â dal swydd Comisiynydd os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael y taliad yn iawndal.

RHAN 4ANGHYMHWYSO RHAG BOD YN GOMISIYNYDD

I13I10113

Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth os yw'r person—

a

yn Aelod Seneddol;

b

yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

c

yn aelod o gyngor sir, o gyngor bwrdeistref sirol neu o gyngor cymuned yng Nghymru;

d

yn aelod o'r Tribiwnlys;

e

yn aelod o'r Panel Cynghori;

f

yn berson sy'n cael ei gyflogi gan berson sy'n dod o fewn Atodlen 5 neu Atodlen 7, neu sy'n cynghori'r person hwnnw;

g

yn aelod o staff y Comisiynydd.

RHAN 5MATERION ARIANNOL

I14I12014Taliadau gan Weinidogion Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru dalu i'r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â gwariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.

I15I12115Blwyddyn ariannol

1

Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

a

y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

b

yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

2

Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Comisiynydd yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

3

Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 2 i rym.

I16I12216Swyddog cyfrifyddu

1

Y Comisiynydd yw'r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd.

2

Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid swyddfa'r Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Trysorlys.

3

Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

a

cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,

b

cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd, ac

c

cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiynydd.

4

Mae'r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfrifoldebau sy'n ddyledus i'r canlynol—

a

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

b

Tŵ'r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŵ hwnnw.

5

Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin (“y Pwyllgor Seneddol”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Seneddol,

b

cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Seneddol ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

c

trosglwyddo'r dystiolaeth a gymerwyd i'r Pwyllgor Seneddol.

6

Mae adran 13 o Ddeddf Archwiliadau Cenedlaethol 1983 (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn yn yr un modd ag y mae'n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

7

Yn y paragraff hwn ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

I17I12317Amcangyfrifon

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio'r un gyntaf, rhaid i'r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant swyddfa'r Comisiynydd.

2

Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â'r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r addasiadau (os oes rhai) sy'n briodol yn eu tyb hwy.

4

Yn is-baragraff (1) ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

I18I12418Cyfrifon

1

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

cadw cofnodion cyfrifyddol priodol, a

b

llunio cyfrifon o ran pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddiadau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

2

Mae'r cyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfarwyddiadau o ran—

a

yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cyfrifon a'r modd y mae'r cyfrifon i'w cyflwyno;

b

y dulliau a'r egwyddorion y mae'r cyfrifon i'w llunio yn unol â hwy;

c

gwybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda'r cyfrifon.

I19I12519Archwilio

1

Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

2

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

a

archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

b

heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â'i adroddiad arnynt.

3

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymysg pethau eraill, wrth archwilio'r cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ei fodloni ei hun fod y gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi cael ei dynnu'n gyfreithiol ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.

I20I12620Archwilio'r defnydd o adnoddau

1

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth i swyddogaethau'r Comisiynydd gael eu cyflawni.

2

Nid yw is-baragraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi'r Comisiynydd.

3

Wrth benderfynu sut i arfer y swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran yr archwiliadau y dylai eu cyflawni.

4

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad o ganlyniadau unrhyw archwiliad a gyflawnwyd o dan y paragraff hwn.

RHAN 6CYFFREDINOL

I21I10221Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “panel dethol” (“selection panel”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 7;

  • ystyr “rheoliadau penodi” (“appointment regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 7.

ATODLEN 2YMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

(a gyflwynwyd gan adran 7)

I22I1371Cyflwyniad

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymholiadau o dan adran 7.

Cylch gorchwyl

I23I1382

Cyn cynnal ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl i'r ymholiad.

I24I1393

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

2

Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu'r person hwnnw neu'r categori o berson.

3

Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

a

hysbysu pob person perthnasol o'r cylch gorchwyl arfaethedig,

b

rhoi cyfle i bob person perthnasol gyflwyno sylwadau am y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

c

ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.

4

Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

a

cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sydd yn nhyb y Comisiynydd yn debygol o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy, neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

b

hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

i

pob person perthnasol, a

ii

Gweinidogion Cymru.

5

Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—

a

person a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, a

b

o ran categori o bersonau a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, pob person y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn dod o fewn y categori hwnnw.

I25I1404

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

2

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

b

hysbysu Gweinidogion Cymru am y cylch gorchwyl.

I26I1415

Mae paragraff 3 neu 4 yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Sylwadau

I27I1426

1

Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau wneud sylwadau mewn perthynas ag ymholiadau.

2

Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol wneud sylwadau yn ystod ymholiad—

a

pob person—

i

a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

ii

sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, a

b

Gweinidogion Cymru.

3

Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys trefniadau ar gyfer sylwadau llafar ymysg pethau eraill.

I28I1437

1

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad—

a

gan berson—

i

a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

ii

sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

b

gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (a)(i) neu (ii), neu

c

gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad gan unrhyw berson arall, onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

3

Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a gyflwynir mewn perthynas ag ymholiad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a gyflwynodd y sylwadau—

a

y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

b

y rhesymau dros y penderfyniad.

4

Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

a

person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a

b

adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

I298Adroddiadau ar ymholiadau

I1101

Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad o'i ganfyddiadau ar unrhyw ymholiad.

2

Ni chaniateir i'r adroddiad—

I181a

ei gwneud yn hysbys beth yw'r methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol (o fewn ystyr Rhan 5) gan berson y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, neu

I110b

cyfeirio fel arall at weithgareddau person y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, oni bai bod y Comisiynydd o'r farn—

i

na fyddai'r cyfeiriad yn niweidio'r person, neu

ii

bod y cyfeiriad yn angenrheidiol er mwyn i'r adroddiad adlewyrchu canlyniadau'r ymholiad yn ddigonol (gan ystyried cylch gorchwyl yr ymholiad).

I1103

Rhaid i'r Comisiynydd anfon drafft o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

I1104

Os yw'r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori o berson, rhaid i'r Comisiynydd hefyd anfon drafft o'r adroddiad at bob person perthnasol.

I1105

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

rhoi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall yr anfonir drafft o adroddiad ato, i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft, a

b

ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

I1106

Ar ôl setlo'r adroddiad (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (5)), rhaid i'r Comisiynydd ei gyhoeddi.

I1107

Nid yw'r paragraff hwn yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r Comisiynydd.

I1108

Yn y paragraff hwn mae i “person perthnasol” yr un ystyr ag a roddir ym mharagraff 3.

ATODLEN 3DIWYGIADAU YNGLŶN Å GWEITHIO AR Y CYD A GWEITHIO'N GYFOCHROGF10...

(a gyflwynwyd gan adran 21)

Annotations:
Amendments (Textual)
F10

Atod. 3 para. 4 traws-bennawd wedi ei hepgor (1.11.2014) yn rhinwedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (anaw 4), a. 199(2), Atod. 3 para. 36(2); O.S. 2014/2718, ergl. 2(b)

I30I1821Deddf Safonau Gofal 2000

Diwygier Deddf Safonau Gofal 2000 fel a ganlyn.

I31I1832

Yn adran 75ZA (Comisiynydd Plant Cymru: gweithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru)—

a

yn y teitl, yn lle “the Commissioner for Older People in Wales” rhodder “other Commissioners”;

b

yn is-adran (1), ar ôl “Wales” mewnosoder “or the Welsh Language Commissioner”;

c

yn is-adran (2), ar ôl “Wales” mewnosoder “, or may inform the Welsh Language Commissioner,”;

d

yn is-adran (3)—

i

ar ôl “must” mewnosoder “(as respects the Commissioner for Older People in Wales) or may (as respects the Welsh Language Commissioner)”;

ii

ym mharagraffau (a) a (b), ar ôl “Wales” mewnosoder “or the Welsh Language Commissioner”;

e

yn is-adran (4), ar ôl “Wales” mewnosoder “or the Welsh Language Commissioner”;

f

yn is-adran (5)—

i

ar ôl “must” mewnosoder “(as respects the Commissioner for Older People in Wales) or may (as respects the Welsh Language Commissioner)”;

ii

yn lle “the Commissioner for Older People in Wales” rhodder “that Commissioner”.

I32I1843

Yn adran 76 (swyddogaethau pellach) yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

c

provide that the Commissioner may make a joint report with the Welsh Language Commissioner where they have exercised their respective functions under this Act and the Welsh Language (Wales) Measure 2011 in relation to the same matters.

F94

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F95

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F96

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006

I33I1857

Diwygier Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 fel a ganlyn.

I34I1868

Yn adran 15 (adroddiadau yn dilyn cyflawni swyddogaethau penodol), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

e

provide that the Commissioner may make a joint report with the Welsh Language Commissioner where they have discharged their respective functions under this Act and the Welsh Language (Wales) Measure 2011 in relation to the same matters.

I35I1879

Yn adran 17 (gweithio'n gyfochrog ag ombwdsmyn eraill)—

a

yn is-adran (2), yn lle “must” rhodder “may (as respects the Welsh Language Commissioner) or must (as respects another Ombudsman)”;

b

yn is-adran (3), yn lle “must” rhodder “may (as respects the Welsh Language Commissioner) or must (as respects another Ombudsman)”;

c

yn is-adran (5), yn lle “must” rhodder “may (as respects the Welsh Language Commissioner) or must (as respects another Ombudsman)”;

d

yn is-adran (6), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

c

the Welsh Language Commissioner.

ATODLEN 4AELODAU'R PANEL CYNGHORI

(a gyflwynwyd gan adran 23)

RHAN 1PENODI

I36I1061Penodi

1

Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penodi aelod o'r Panel Cynghori rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 5).

2

Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

I37I1272Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Panel Cynghori.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Panel Cynghori.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy.

I38I1283Telerau penodi

1

Mae aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

I39I1294Cyfnod y penodiad

1

Mae person a benodir yn aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 3 blynedd.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen hon.

I40I1075Rheoliadau Penodi

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau o'r Panel Cynghori (“rheoliadau penodi”).

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi yn cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (3) i (6), ond nid yw'n gyfyngedig iddi.

3

Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi aelod o'r Panel Cynghori.

4

Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch—

a

gwybodaeth o'r Gymraeg, a hyfedredd ynddi, a

b

gwybodaeth a phrofiad—

i

o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch, a

ii

o unrhyw fater arall sy'n berthnasol i unrhyw beth sy'n dod i ran y Comisiynydd i'w wneud,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i aelod o'r Panel Cynghori feddu arno.

5

Caiff rheoliadau penodi—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

6

Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

RHAN 2TERFYNU PENODIAD

I41I1306Ymddiswyddo

Caiff aelod o'r Panel Cynghori ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

I42I1317Anghymhwyso rhag bod yn aelod

Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

I43I1328Diswyddo

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Panel Cynghori os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

nad yw'r person yn ffit i barhau yn aelod o'r Panel Cynghori, neu

b

nad yw'r person yn gallu neu'n fodlon gweithredu fel aelod o'r Panel Cynghori.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd cyn diswyddo aelod o'r Panel Cynghori.

I44I1339Taliadau pan fo rhywun yn peidio â dal swydd

Caiff Gweinidogion Cymru dalu person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael taliad yn iawndal.

RHAN 3ANGHYMHWYSO

I45I10810Anghymhwyso ar sail cyflogaeth

Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth os yw'r person—

a

yn Aelod Seneddol;

b

yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

c

yn aelod o Dribiwnlys y Gymraeg;

d

yn aelod o staff y Comisiynydd.

RHAN 4CYFFREDINOL

I46I10911Dehongli

Yn yr Atodlen hon ystyr “rheoliadau penodi” yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 5.

I147ATODLEN 5Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 6

(a gyflwynwyd gan adran 33)

Annotations:
Commencement Information
I147

Atod. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1

Colofn 2

Cofnod

Person/Categori

(1)

Awdurdodau cyhoeddus.

(2)

Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac a gafodd eu sefydlu drwy ddeddfiad.

(3)

Personau wedi eu sefydlu drwy offeryn uchelfreiniol—

  1. a

    i hybu dysg a gwybodaeth drwy addysgu neu ymchwilio neu drwy ddatblygu neu ddyfarnu cymwysterau,

  2. b

    i gasglu neu ddiogelu gwybodaeth gofnodedig, neu wrthrychau a phethau sy'n hybu dealltwriaeth, neu ddarparu mynediad at yr wybodaeth honno neu at y gwrthrychau a'r pethau hynny,

  3. c

    i gefnogi, gwella, neu hybu treftadaeth, diwylliant, chwaraeon neu weithgareddau hamdden, neu ddarparu mynediad atynt,

  4. d

    sy'n ymgymryd â hybu gwybodaeth ehangach am Gymru a chynrychioli buddiannau Cymru mewn gwledydd eraill, neu

  5. e

    sy'n ymgymryd â bancio canolog.

(4)

Personau y mae swyddogaethau darparu gwasanaethau i'r cyhoedd wedi eu rhoi iddynt neu wedi eu gosod arnynt drwy ddeddfiad.

(5)

Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol—

  1. a

    pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu

  2. b

    pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.

(6)

Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.

(7)

Darparwyr tai cymdeithasol.

(8)

Personau sy'n cydsynio i gael eu pennu yn Atodlen 6.

I47I147I1441I147Cofnod (5): diwygio drwy orchymyn

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio cofnod (5) yn y tabl drwy gyfnewid y swm perthnasol am unrhyw swm arall heb fod yn llai na £400,000.

2

Yn is-baragraff (1), ystyr “swm perthnasol” yw'r cyfanswm o arian cyhoeddus sydd o bryd i'w gilydd wedi ei nodi yng nghofnod (5) yn y tabl.

I48I147I1452I147Cofnod (8): dehongli etc

At ddibenion cofnod (8) yn y tabl—

a

ystyr “cydsyniad” mewn perthynas â pherson yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru gan y person;

b

caniateir tynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny.

I49I147I1463I147Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—

    1. a

      arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy—

      1. i

        Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

      2. ii

        Gweinidogion Cymru;

      3. iii

        Senedd y DU;

      4. iv

        Gweinidogion y Goron; neu

      5. v

        un neu ragor o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd;

    2. b

      arian a ddarperir yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

I150ATODLEN 6CYRFF CYHOEDDUS ETC: SAFONAU

(a gyflwynwyd gan adran 33)

Annotations:
Commencement Information
I150

Atod. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1

Colofn 2

Person/Categori

Safonau cymwysadwy

LLYWODRAETH

Gweinidogion Cymru (“The Welsh Ministers”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau hybu

Safonau cadw cofnodion

Gweinidogion y Goron (“Ministers of the Crown”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Adrannau'r Llywodraeth (“Government departments”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Personau sy'n arfer, ar ran y Goron, swyddogaethau a roddir gan neu o dan Ddeddf neu Fesur (“Persons exercising, on behalf of the Crown, functions conferred by or under an Act or Measure”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

LLYWODRAETH LEOL ETC

Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (“County borough councils and county councils in Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau hybu

Safonau cadw cofnodion

Cynghorau cymuned (“Community councils”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyd-bwyllgorau awdurdodau lleol (“Local authority joint committees”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyd-fyrddau awdurdodau lleol (“Local authority joint boards”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (“The Board of Community Health Councils in Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Byrddau Iechyd Lleol (“Local Health Boards”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cynghorau Iechyd Cymuned (“Community Health Councils”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“National Health Service Trusts”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Awdurdodau Iechyd Arbennig (“Special Health Authorities”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (“National Park Authorities”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau hybu

Safonau cadw cofnodion

F14. . .

F14. . .

F14. . .

F14. . .

F14. . .

F13Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain (“British Transport Police Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Yr Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil (“The Civil Nuclear Police Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F15. . .

F15. . .

F15. . .

F15. . .

F15. . .

Awdurdodau Tân ac Achub (“Fire and Rescue Authorities”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Darparwyr Tai Cymdeithasol (“Providers of Social Housing”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F11Paneli cynllunio strategol (“Strategic planning panels”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau hybu

Safonau cadw cofnodion

CYFFREDINOL

Amgueddfa Genedlaethol Cymru (“The National Museum of Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Archwilydd Cyffredinol Cymru (“The Auditor General for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F16. . .

F16. . .

F16. . .

F16. . .

F16. . .

Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch (“The Quality Assurance Agency for Higher Education”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Asiantaeth yr Amgylchedd (“The Environment Agency”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F17. . .

F17. . .

F17. . .

F17. . .

F17. . .

F18. . .

F18. . .

F18. . .

F18. . .

F18. . .

Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (“The Criminal Injuries Compensation Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol (“The Human Fertilisation and Embryology Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (“The Human Tissue Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F3. . .

F3. . .

F3. . .

F3. . .

F3. . .

F19. . .

F19. . .

F19. . .

F19. . .

F19. . .

F4Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (“Prudential Regulation Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion.

Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (“The Security Industry Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F5Awdurdod Ymddygiad Ariannol (“Financial Conduct Authority”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion.

Banc Lloegr (“The Bank of England”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Brifysgol Agored (“The Open University”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Buddsoddwyr mewn Pobl y DU (“Investors in People UK”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (“The Youth Justice Board for England and Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (“The Agriculture and Horticulture Development Board”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F20. . .

F20. . .

F20. . .

F20. . .

F20. . .

Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peiriannol (“The Engineering Construction Industry Training Board”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain (“The British Wool Marketing Board”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Y Bwrdd Ystadegau (“The Statistics Board”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Canolfan Mileniwm Cymru (“Wales Millennium Centre”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig (“Career Choices Dewis Gyrfa Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyfyngedig (“The Royal Welsh College of Music and Drama Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Coleg Ceredigion

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F41Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig (“Merthyr Tydfil College Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Coleg Sir Gâr

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Colegau Cymru Cyfyngedig (“Colleges Wales Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (“The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (“The Independent Police Complaints Commission”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (“The Commission for Equality and Human Rights”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F8. . .

F8. . .

F8. . .

F8. . .

F8. . .

F21. . .

F21. . .

F21. . .

F21. . .

F21. . .

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr (“Charities Commission for England and Wales ”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Comisiwn Etholiadol (“The Electoral Commission”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F6Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“The Local Democracy and Boundary Commission for Wales

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F22. . .

F22. . .

F22. . .

F22. . .

F22. . .

Y Comisiwn Hapchwarae (“The Gambling Commission”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant (“The Child Maintenance and Enforcement Commission”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (“The UK Commission For Employment and Skills”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F23. . .

F23. . .

F23. . .

F23. . .

F23. . .

F13Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (“Police and Crime Commissioners”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiynydd Plant Cymru (“The Children’s Commissioner for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“The Commissioner for Older People in Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F24. . .

F24. . .

F24. . .

F24. . .

F24. . .

F41Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant (“The governing body of Saint David’s Catholic College”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F2Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“The Natural Resources Body for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Corfforaethau addysg bellach (“Further education corporations”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Corfforaethau addysg uwch (“Higher education corporations”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cronfa Addysgu ac Ymchwilio Alcohol (“The Alcohol Education and Research Fund”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F42. . .

F42. . .

F42. . .

F42. . .

F42. . .

F25. . .

F25. . .

F25. . .

F25. . .

F25. . .

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig (“Student Loans Company Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyllid Cymru ccc (“Finance Wales plc”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F26. . .

F26. . .

F26. . .

F26. . .

F26. . .

F13Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth (“TheNational Association of Citizens Advice Bureaux”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (“The Welsh Local Government Association”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Cymwysterau Cymru (“Qualifications Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cynghorau Sgiliau Sector (“The Sector Skills Councils”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F33Cyngor y Gweithlu Addysg (“Education Workforce Council”

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F1. . .

F1. . .

F1. . .

F1. . .

F1. . .

Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol (“The General Chiropractic Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyngor Celfyddydau Cymru (“The Arts Council of Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“The Higher Education Funding Council for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyngor Chwaraeon Cymru (“The Sports Council for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyngor Chwaraeon y DU (“The UK Sports Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (“The Consumer Council for Water”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (“The General Dental Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (“The General Pharmaceutical Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F27. . .

F27. . .

F27. . .

F27. . .

F27. . .

F47Gofal Cymdeithasol Cymru (“Social Care Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (“Wales Council for Voluntary Action”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Cyngor Llyfrau Cymru (“The Welsh Books Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (“The General Medical Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (“The Nursing and Midwifery Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Optegol Cyffredinol (“The General Optical Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (“The General Osteopathic Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F34Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (“The Health and Care Professions Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Cyngor Prydeinig (“The British Council”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F35Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (“The Professional Standards Authority for Health and Social Care”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

F45. . .

Cyrff llywodraethu ysgolion (“The governing bodies of schools”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Darparwyr gwasanaethau gyrfaoedd (“Providers of career services”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F36Transport Focus

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (“National Botanic Garden of Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Glandŵr Cymru (“The Canal & River Trust”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Gofal Cymru

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (“The British Broadcasting Corporation”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Gronfa Loteri Fawr (“The Big Lottery Fund”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Grŵp y Post Brenhinol ccc (“Royal Mail Group plc”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (“National Endowment for Science, Technology and the Arts”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (“The Pensions Advisory Service”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F28. . .

F28. . .

F28. . .

F28. . .

F28. . .

F43. . .

F43. . .

F43. . .

F43. . .

F43. . .

F13Hafal

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Hybu Cig Cymru — Meat Promotion Wales

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Leonard Cheshire Disability

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F29. . .

F29. . .

F29. . .

F29. . .

F29. . .

Llyfrgell Genedlaethol Cymru (“The National Library of Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Motability

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

The National Theatre of Wales

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

NIACE

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Yr Ombwdsmon Pensiynau (“The Pensions Ombudsman”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Opera Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig (“Welsh National Opera Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F37Y pwyllgorau asesu rhenti i Gymru (“The rent assessment committees for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Prifysgol Abertawe (“Swansea University”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Prifysgol Aberystwyth (“Aberystwyth University”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Prifysgol Bangor (“Bangor University”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Prifysgol Caerdydd (“Cardiff University”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Prifysgol Cymru (“The University of Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F30. . .

F30. . .

F30. . .

F30. . .

F30. . .

Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (“University of Wales: Trinity St David”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F31. . .

F31. . .

F31. . .

F31. . .

F31. . .

F32. . .

F32. . .

F32. . .

F32. . .

F32. . .

Pwyllgor Ymgynghorol Trafnidiaeth i'r Anabl (“The Disabled Persons Transport Advisory Committee”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Rheoleiddiwr Pensiynau (“The Pensions Regulator”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Royal Voluntary Service

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (“National Institute for Health and Clinical Excellence”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Sefydliad Datblygu Cymunedol (“The Community Development Foundation”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Y Sefydliad Ffilm Prydeinig (The British Film Institute”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol (“The Health, Education and Social Care Chamber”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Sianel 4 Cymru

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Swyddfa Archwilio Cymru (“TheWales Audit Office”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Y Swyddfa Gyfathrebiadau (“The Office of Communications”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F40Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (“The Office of Rail and Road

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (“The Information Commissioner’s Office”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Theatr Genedlaethol Cymru

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Tribiwnlys Adolygiad Iechyd Meddwl Cymru (“The Mental Health Review Tribunal for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“The Special Educational Needs Tribunal for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (“The Residential Property Tribunal Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F41Tribiwnlys Prisio Cymru (“Valuation Tribunal for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (“Agricultural Land Tribunal (Wales)”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

UFI Cyf (“UFI Ltd”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Uned Ddata Llywodraeth Leol — Cymru (“The Local Government Data Unit—Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13Wallich-Clifford Community

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F13WEA YMCA CC Cymru

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F41WJEC CBAC Cyfyngedig (“WJEC CBAC Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F46Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (“United Kingdom Research and Innovation”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cyfyngedig (“The Energy Saving Trust Limited”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

F41Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“Trustees of the National Heritage Memorial Fund”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

Yr Ymddiriedolaeth Garbon (“The Carbon Trust”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

I150Dehongli etc

I50I148I1501

Mae'r tabl yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol—

a

nid yw'r cofnod sy'n ymwneud ag adrannau'r llywodraeth yn cynnwys unrhyw beth sy'n dod o fewn y cofnod sy'n ymwneud â Gweinidogion y Goron;

b

nid yw'r cofnod sy'n ymwneud â phersonau sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron yn cynnwys unrhyw berson sy'n dod o fewn unrhyw gofnod arall.

I51I1492

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw awdurdod iechyd arbennig a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “Awdurdod Tân ac Achub” (“Fire and Rescue Authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw bwrdd iechyd lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “corff llywodraethu ysgolion” (“governing body of a school”) yw corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol F7... o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'i hamnewidiwyd gan adran 140(1) a pharagraff 50 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “corfforaeth addysg bellach” (“further education corporation”) yw corfforaeth addysg bellach a sefydlwyd o dan adran 15 neu 16 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • ystyr “corfforaeth addysg uwch” (“higher education corporation”) yw corfforaeth addysg uwch a sefydlwyd o dan adran 121 neu 122 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

  • ystyr “cyd-bwyllgor awdurdod lleol” (“local authority joint committee”) yw cyd-bwyllgor o ddau neu ragor o'r canlynol—

    1. a

      cynghorau sir,

    2. b

      cynghorau bwrdeistref sirol, neu

    3. c

      cynghorau cymuned;

  • ystyr “cyd-fwrdd awdurdod lleol” (“local authority joint board”) yw cyd-fwrdd, a dau neu ragor o'r canlynol yw ei aelodau—

    1. a

      cynghorau sir,

    2. b

      cynghorau bwrdeistref sirol, neu

    3. c

      cynghorau cymuned;

  • ystyr “Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council” ) yw cyngor iechyd cymuned a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “darparwr gwasanaethau gyrfaoedd” (“provider of career services”) yw person y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud trefniadau gydag ef (heb fod yn drefniadau sydd wedi dod i ben) o dan adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 (darparu gwasanaethau gyrfaoedd);

  • ystyr “Deddf” (“Act”) yw Deddf Senedd y DU neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • F38...

  • mae “Gweinidog y Goron” (“Minister of the Crown”) yn cynnwys y Trysorlys;

  • ystyr “Llais Defnyddwyr” (“Consumer Focus”) yw'r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Defnyddwyr, Gwerthwyr Tai a Gwneud Iawn am Gamweddau 2007;

  • F12“ystyr “panel cynllunio strategol” (“strategic planning panel”) yw panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

  • F39ystyr “Transport Focus” yw’r Cyngor Teithwyr a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheilffyrdd 2005;

  • ystyr “Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru” (“Agricultural Land Tribunal (Wales)”) yw'r tribiwnlys tir amaethyddol a sefydlwyd ar gyfer Cymru gan Orchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Ardaloedd) 1982;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trust”) yw un o ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gyfansoddwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

I153ATODLEN 7Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 8

(a gyflwynwyd gan adran 33)

Annotations:
Commencement Information
I153

Atod. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Cofnod

Disgrifiad o'r person

Gwasanaeth(au) sydd ar gael

(1)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu).

  1. a

    Gwasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu).

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(2)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion).

  1. a

    Gwasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion).

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(3)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau post neu swyddfeydd post.

  1. a

    Gwasanaethau post neu wasanaethau swyddfeydd post.

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(4)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau telathrebu.

  1. a

    Gwasanaethau telathrebu.

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(5)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

  1. a

    Addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(6)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

  1. a

    Gwasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(7)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.

  1. a

    Gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(8)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol.

  1. a

    Gwasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol.

  2. b

    Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(9)

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.

Gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.

(10)

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gydag awdurdod cyhoeddus.

Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau, a wnaed gyda'r awdurdod cyhoeddus.

I52I153I1511I153Gwasanaethau a ddarperir mewn siopau: eithriadau

1

Nid yw cyfeiriadau yn y tabl at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarparir mewn siopau onid yw'r gwasanaethau hynny—

a

yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu

b

yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd.

2

At y diben hwnnw, y canlynol yw'r cyfeiriadau yn y tabl at wasanaethau cysylltiedig—

a

yng ngholofn (3) ym mhob un o resi (1) i (8) yn y tabl, y cyfeiriadau ym mharagraff (b) bob tro at wasanaethau eraill, a

b

yng ngholofnau (2) a (3) yn rhes (9) yn y tabl, y cyfeiriadau at wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.

I53I152I1532I153Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—

    1. a

      arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy—

      1. i

        Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

      2. ii

        Gweinidogion Cymru;

      3. iii

        Senedd y DU;

      4. iv

        Gweinidogion y Goron; neu

      5. v

        un neu ragor o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd;

    2. b

      arian a ddarperir yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998;

  • ystyr “gwasanaethau bysiau” (“bus services”) yw gwasanaeth rheolaidd â cherbyd gwasanaeth cyhoeddus (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981) i gludo teithwyr am brisiau tocyn ar wahân, ac eithrio gwasanaeth—

    1. a

      y mae capasiti cyfan y cerbyd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw wedi ei brynu gan siartrwr at ei ddefnydd ei hun neu i'w ailwerthu;

    2. b

      sy'n daith neu'n drip a drefnwyd yn breifat gan unrhyw berson sy'n gweithio'n annibynnol ar weithredwr y cerbyd; neu

    3. c

      lle y mae'r teithwyr yn teithio gyda'i gilydd ar daith, gyda seibiannau neu hebddynt, a ph'un ai ar yr un diwrnod ai peidio, o un neu fwy o leoedd i un neu fwy o leoedd ac yn ôl;

  • ystyr “gwasanaeth sylfaenol” (“primary service”) yw gwasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) yng ngholofn (3) o unrhyw un neu ragor o resi (1) i (8);

  • ystyr “gwasanaethau post” (“postal services”) yw'r gwasanaeth o gludo llythyrau, parseli, pacedi neu bethau eraill o un man i fan arall drwy'r post a'r gwasanaethau cysylltiedig o dderbyn, casglu, sortio a danfon y cyfryw bethau;

  • ystyr “gwasanaethau telathrebu” (“telecommunications service”) yw unrhyw wasanaeth sy'n cynnwys darparu mynediad at, neu gyfleusterau i wneud defnydd o, unrhyw system sy'n bod (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall) at y diben o hwyluso trosglwyddo cyfathrebiadau drwy unrhyw fodd sy'n golygu defnyddio ynni trydanol, magnetig neu electromagnetig (gan gynnwys y cyfarpar a geir yn y system), ond nid yw'n cynnwys darlledu, y radio na'r teledu;

  • ystyr “person neilltuedig” (“qualifying person”) yw person nad yw o fewn Atodlen 6;

  • ystyr “siop” (“shop”) yw unrhyw fangre, a masnach neu fusnes gwerthu nwyddau yw'r brif fasnach neu'r prif fusnes sy'n cael ei chynnal neu ei gynnal yno.

I161ATODLEN 8CYRFF ERAILL: SAFONAU

(cyflwynwyd gan adran 33)

Annotations:
Commencement Information
I161

Atod. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1

Colofn 2

Person/Categori

Gwasanaeth(au) penodedig

Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr nwy trwyddedig.

Cyflenwi nwy i'r cyhoedd o dan y drwydded nwy berthnasol.

Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr dros Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr trydan trwyddedig.

Cyflenwi trydan i'r cyhoedd o dan drwydded drydan berthnasol.

Personau neilltuedig sy'n darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd.

Darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig, ac eithrio cyrff di-elw, sy'n darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd.

Darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd.

Darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd.

Darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr.

Darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr.

Personau neilltuedig sy'n darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd.

Darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

Darparu i'r cyhoedd wasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd.

Darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (“y gwasanaethau cysylltiedig”) sy'n gysylltiedig â gwasanaeth sy'n dod o fewn colofn (2) mewn unrhyw un neu ragor o'r cofnodion blaenorol yn y tabl hwn (y “gwasanaeth sylfaenol”), p'un ai hwy yw'r personau sy'n darparu'r gwasanaeth sylfaenol ai peidio.

Darparu'r gwasanaethau cysylltiedig i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gyda—

  1. a

    Gweinidogion Cymru,

  2. b

    un o Weinidogion y Goron,

  3. c

    un o adrannau'r llywodraeth,

  4. d

    person sy'n arfer ar ran y Goron swyddogaethau a roddwyd gan Ddeddf neu Fesur neu o dan Ddeddf neu Fesur, neu

  5. e

    cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru.

Darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau hynny.

I161Dehongli

I54I161I1541

1

Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Atodlen 7 (ac eithrio “gwasanaeth cysylltiedig” a “gwasanaeth sylfaenol”) yr un ystyron yn yr Atodlen hon ag yn Atodlen 7.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

I55I161I1552

Mae cyfeiriadau at ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn cynnwys y canlynol (ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny)—

a

darparu'r gwasanaeth i'r cyhoedd yn gyffredinol neu i aelodau penodol o'r cyhoedd, a

b

darparu'r gwasanaeth at unrhyw ddiben (boed at ddiben domestig, busnes neu ddiben arall).

I56I156I1613I161Nwy

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cyflenwr nwy trwyddedig” (“licensed gas supplier”) yw deiliad trwydded nwy berthnasol;

  • ystyr “trwydded nwy berthnasol” (“relevant gas licence”) yw trwydded o dan adran 7A o Ddeddf Nwy 1986.

I57I157I1614I161Trydan

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cyflenwr trydan trwyddedig” (“licensed electricity supplier”) yw deiliad trwydded drydan berthnasol;

  • ystyr “trwydded drydan berthnasol” (“relevant electricity licence”) yw trwydded o dan adran 6(1)(d) o Ddeddf Trydan 1989.

I58I161I1585I161Gwasanaethau post

Yn yr Atodlen hon ystyr “corff di-elw” yw person neu gorff arall—

a

nad yw wedi ei gyfansoddi at ddibenion gwneud elw, neu

b

y mae'n ofynnol iddo (ar ôl iddo dalu alldaliadau) gymhwyso'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus.

I59I161I1596I161Rheilffyrdd

Yn yr Atodlen hon mae'r ymadrodd “gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr” yn cynnwys gwasanaethau i deithwyr a ddarperir ar reilffyrdd trên bach neu reilffyrdd dreftadaeth (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt).

I60I161I1607I161Gwasanaethau cysylltiedig

Yn yr Atodlen hon nid yw'r cyfeiriadau at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir mewn siopau, onid yw'r gwasanaethau hynny—

a

yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu

b

yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.

I97I162ATODLEN 9GWEITHGAREDDAU Y MAE'N RHAID PENNU SAFONAU CYFLENWI GWASANAETHAU MEWN PERTHYNAS Å HWY

(a gyflwynwyd gan adran 42)

Annotations:
Commencement Information
I97

Atod. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I162

Atod. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

I162Dyma'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn adran 42(2)—

  • gohebiaeth;

  • galwadau ffôn;

  • llinellau cymorth a chanolfannau galwadau;

  • cyfarfodydd personol;

  • cyfarfodydd cyhoeddus;

  • cyhoeddusrwydd a hysbysebu;

  • arddangosfeydd cyhoeddus;

  • cyhoeddiadau;

  • ffurflenni;

  • gwefannau a gwasanaethau ar-lein;

  • arwyddion;

  • derbyn ymwelwyr;

  • hysbysiadau swyddogol;

  • dyfarnu grantiau;

  • dyfarnu contractau;

  • codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael.

ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

(cyflwynwyd gan adran 71)

RHAN 1CYFFREDINOL

I61I1881Cyflwyniad

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan adran 71.

I62I1892Cylch gorchwyl

1

Cyn cynnal ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

2

Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu—

a

y person yr ymchwilir iddo (“D”),

b

y methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.

3

Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

a

rhoi hysbysiad am y cylch gorchwyl arfaethedig—

i

i D, a

ii

i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant,

b

rhoi cyfle i bob person y rhoddir hysbysiad iddo ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig i wneud sylwadau ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

c

ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

4

Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

a

cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn modd sy'n debygol, yn nhyb y Comisiynydd, o ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae a wnelo'r ymchwiliad â hwy neu bersonau sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

b

hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

i

D, a

ii

unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

5

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Sylwadau

I63I1903

1

Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau i wneud sylwadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.

2

Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol i wneud sylwadau yn ystod ymchwiliad—

a

D, a

b

unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

3

Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys, ymhlith pethau eraill, drefniadau ar gyfer sylwadau llafar.

I64I1914

1

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad—

a

gan D, neu

b

gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran D.

2

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad gan unrhyw berson arall onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

3

Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a wnaeth y sylwadau—

a

y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

b

y rhesymau dros y penderfyniad.

4

Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

a

person sydd, at ddibenion Deddf y Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu

b

adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

RHAN 2GWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR

Hysbysiadau tystiolaeth

I65I1925

1

Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (A).

2

Yn y Mesur hwn, ystyr “hysbysiad tystiolaeth” yw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o'r canlynol—

a

darparu gwybodaeth sydd ym meddiant A;

b

cyflwyno dogfennau sydd ym meddiant A;

c

rhoi tystiolaeth lafar.

3

Caiff hysbysiad o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth ynghylch—

a

y ffurf ar wybodaeth, ar ddogfennau neu ar dystiolaeth;

b

amseru unrhyw beth sydd i'w wneud yn unol â'r hysbysiad.

4

Ni chaniateir i hysbysiad o dan y paragraff hwn ei gwneud yn ofynnol i A wneud unrhyw beth na allai A gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

5

Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn hysbysu A—

a

beth fydd y canlyniadau os na fydd A yn cydymffurfio â'r hysbysiad; a

b

am yr hawl i apelio o dan baragraff 9.

I66I1936

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—

a

yn darparu gwybodaeth,

b

yn cyflwyno dogfennau, neu

c

yn rhoi tystiolaeth lafar.

2

Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—

a

symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a

b

lwfansau yn iawndal am i B golli amser.

3

Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—

a

yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a

b

yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.

Cyfrinachedd etc

I67I1947

O ran hysbysiad o dan baragraff 5—

a

ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth y gwaherddir i'r person ei datgelu yn rhinwedd deddfiad, a

b

ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai'r person hwnnw gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

I68I1958

1

Rhaid i A ddiystyru hysbysiad a roddir o dan baragraff 5, a rhaid iddo hysbysu'r Comisiynydd fod A yn ei ddiystyru, i'r graddau y mae A o'r farn y byddai'n ofynnol i A—

a

datgelu gwybodaeth sensitif o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaethau Cudd-wybodaeth 1994 (Y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch),

b

datgelu gwybodaeth a allai arwain at wybod pwy yw cyflogai neu asiant gwasanaeth cudd-wybodaeth (ac eithrio un y mae eisoes yn hysbys i'r Comisiynydd pwy ydyw),

c

datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion prosesau a ddefnyddir i recriwtio, dewis neu hyfforddi cyflogeion neu asiantau gwasanaeth cudd-wybodaeth,

d

datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion gwybodaeth sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu na ellir yn ymarferol eu gwahanu oddi wrth yr wybodaeth honno, neu

e

datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth ac a fyddai'n niweidiol i fuddiannau diogelwch gwladol.

2

Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth cudd-wybodaeth” yw—

a

y Gwasanaeth Diogelwch,

b

y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, ac

c

Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.

3

Os bydd A yn hysbysu'r Comisiynydd o dan is-baragraff (1) uchod—

a

nid yw paragraffau 9 a 10 yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r hysbysiad o dan baragraff 5 y mae'r hysbysiad o dan is-baragraff (1) uchod yn ymwneud â hi,

b

caiff y Comisiynydd wneud cais i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad,

c

bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y Ddeddf honno (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol)—

i

adran 67(7), (8) a (10) i (12) (dyfarniad),

ii

adran 68 (gweithdrefn), a

iii

adran 69 (rheolau), a

d

rhaid i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o'r Ddeddf honno ddyfarnu achosion o dan y paragraff hwn drwy ystyried barn A yn unol â'r egwyddorion a gâi eu cymhwyso gan lys ar gais am adolygiad barnwrol ar roi'r hysbysiad.

4

Os daw gwybodaeth neu ddogfennau i law'r Comisiynydd oddi wrth wasanaeth cudd-wybodaeth neu'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth mewn ymateb i hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r Comisiynydd storio a defnyddio'r wybodaeth neu'r dogfennau'n unol ag unrhyw drefniadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Apelau

I69I1969

Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod gofyniad a osodir gan yr hysbysiad—

a

yn ddiangen o ystyried pwrpas yr ymchwiliad, neu

b

yn afresymol neu'n anghymesur mewn modd arall.

I70I19710

Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod y gofyniad a osodir gan yr hysbysiad yn annymunol am resymau diogelwch gwladol, ac eithrio am y rheswm y byddai'n gofyn am ddatgelu gwybodaeth o'r math y mae paragraff 8(1) yn gymwys iddo.

I71I19811Gorfodi

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn bod A—

a

wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5, neu

b

yn debygol o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5.

2

Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad.

RHAN 3PŴER I FYND I MEWN AC I ARCHWILIO

I72I19912Pŵer i fynd i mewn ac i archwilio

1

Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd, fynd i mewn i fangre a'i harchwilio os bydd mynd i mewn ac archwilio'n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad yn nhyb y Comisiynydd neu'r person awdurdodedig.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4).

3

Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn—

a

i annedd, neu

b

i fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo.

4

Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn i fangre ar adeg benodol os yw'n afresymol mynd i mewn ar yr adeg honno.

ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

(a gyflwynwyd gan adran 120)

RHAN 1NIFER AELODAU'R TRIBIWNLYS

I73I1651Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith

1

Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ddyfarnu nifer yr aelodau sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith y mae'r Tribiwnlys i'w cael.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.

3

I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau o'r Tribiwnlys ac sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.

I74I1662Aelodau lleyg

1

Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd bennu nifer yr aelodau lleyg y mae'r Tribiwnlys i'w cael.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.

3

I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau lleyg o'r Tribiwnlys yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.

RHAN 2PENODI

I75I1673Y Llywydd

1

Dim ond os yw'r person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd—

a

yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd, a

b

unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd os yw'r person—

a

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

b

wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n Llywydd ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

3

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).

I76I1684Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith

1

Dim ond os yw person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith—

a

yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd,

b

unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith os yw'r person—

a

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

b

wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

3

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).

I77I1695Aelodau lleyg

1

Dim ond os yw person yn bodloni unrhyw amodau sy'n gymwys i'r penodiad a bennir mewn rheoliadau penodi y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg—

a

os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd,

b

os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n aelod lleyg ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol, neu

c

os gellid penodi'r person yn aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

I78I1706Tâl cydnabyddiaeth etc

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Tribiwnlys.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Tribiwnlys.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

I79I1717Telerau penodi

1

Mae aelod o'r Tribiwnlys yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

I80I1728Cyfnod y penodiad

1

Mae person a benodir yn aelod o'r Tribiwnlys yn aelod (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 5 mlynedd.

2

Ond, os yw'n angenrheidiol neu'n hwylus yn nhyb Gweinidogion Cymru, caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys am gyfnod sy'n llai na 5 mlynedd.

3

Mae'r paragraff hwn yn ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

I81I1639Rheoliadau penodi

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Tribiwnlys (“rheoliadau penodi”).

2

Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch unrhyw un neu ragor o'r materion canlynol—

a

yr egwyddorion i'w dilyn wrth wneud unrhyw benodiad i'r Tribiwnlys;

b

gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae'n rhaid i aelodau'r Tribiwnlys feddu arnynt.

3

Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

4

Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

F44RHAN 2ATraws-leoli aelodau'r tribiwnlys

Annotations:
Amendments (Textual)
F44

Atod. 11 Rhn. 2A wedi ei fewnosod (dod i rym yn unol â rhl. 2(1) o’r O.S. cychwyn) gan Wales Act 2017 (c. 4), aau. 62(7)(a), 71(4) (ynghyd ag Atod. 7 parau. 1, 6); O.S. 2017/351, rhl. 2(2)

9A

Ar gais y Llywydd a chyda chymeradwyaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, caiff aelod o dribiwnlys sydd wedi'i restru yn adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 (Tribiwnlysoedd Cymru), ac nad yw'n aelod o'r Tribiwnlys, weithredu fel aelod o'r Tribiwnlys.

RHAN 3TERFYNU PENODIAD

I82I17310Ymddiswyddo

1

Caiff y Llywydd ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.

2

Caiff aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu aelod lleyg o'r Tribiwnlys ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

I83I17411Anghymhwyso rhag bod yn aelod

Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd.

I84I17512Diswyddo

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Tribiwnlys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

nad yw'r person hwnnw'n ffit i barhau fel aelod o'r Tribiwnlys, neu

b

nad yw'r person hwnnw'n gallu neu'n fodlon arfer ei ddyletswyddau fel aelod o'r Tribiwnlys.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn diswyddo unrhyw aelod arall o'r Tribiwnlys.

RHAN 4ANGHYMHWYSO RHAG BOD YN AELOD NEU RHAG CAEL EI BENODI

I85I17613Anghymhwyso rhag bod yn aelod: cyflogaeth

1

Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth—

a

os yw'r person yn Aelod Seneddol;

b

os yw'r person yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

c

os yw'r person yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;

d

os yw'r person yn aelod o staff Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

e

os ef yw'r Comisiynydd;

f

os ef yw'r Dirprwy Gomisiynydd;

g

os yw'r person yn unrhyw aelod arall o staff y Comisiynydd; neu

h

os yw'r person yn briod â pherson, neu'n bartner sifil i berson, sy'n dod o fewn paragraff (e), (f) neu (g).

I86I17714Anghymhwyso rhag bod yn aelod: anaddasrwydd

1

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—

a

wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;

b

wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;

c

wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;

d

wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;

e

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu

f

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—

a

hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu

b

hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.

3

At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—

a

hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu

b

os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.

4

Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.

I87I17815Anghymhwyso rhag penodi: oedran

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys os yw'r person eisoes wedi cyrraedd 70 oed ar ddyddiad y penodiad.

I88I17916Anghymhwyso rhag penodi: penodiad blaenorol

1

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n Llywydd am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

2

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o'r Tribiwnlys wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

3

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod lleyg ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod lleyg am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

I89I18017Anghymhwyso rhag penodi: diswyddiad blaenorol o swydd

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys ar sail diswyddiad blaenorol os yw Gweinidogion Cymru wedi diswyddo'r person o'r Tribiwnlys yn flaenorol o dan baragraff 12.

RHAN 5CYFFREDINOL

I90I16418Dehongli

Yn yr Atodlen hon ystyr “rheoliadau penodi” yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9.

ATODLEN 12DIDDYMU BWRDD YR IAITH GYMRAEG: DARPARIAETH ARALL

(a gyflwynwyd gan adran 146)

I91I1031Staff y Bwrdd

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff y Bwrdd—

a

i'r Comisiynydd, neu

b

i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

2

O ran contract cyflogaeth person a drosglwyddir yn rhinwedd y paragraff hwn—

a

nid yw'n cael ei derfynu gan y trosglwyddo, a

b

mae'n cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo fel pe byddai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a drosglwyddir a'r trosglwyddai.

3

Heb ragfarnu is-baragraff (2)—

a

os trosglwyddir person i'w gyflogi gan y Comisiynydd—

i

trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r Bwrdd o dan gontract cyflogaeth y person ac mewn cysylltiad â'i gontract i'r Comisiynydd ar y dyddiad trosglwyddo, a

ii

mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â'r person neu â'r contract i'w drin o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan y Comisiynydd neu mewn perthynas ag ef,

b

os trosglwyddir person i'w gyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru—

i

trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r Bwrdd o dan gontract cyflogaeth y person ac mewn cysylltiad â'i gontract i Weinidogion Cymru ar y dyddiad trosglwyddo, a

ii

mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â'r person neu â'r contract i'w drin o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.

4

Os trosglwyddir person yn rhinwedd y paragraff hwn, mae cyfnod cyflogaeth y person hwnnw gyda'r Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—

a

yn cyfrif fel cyfnod o gyflogaeth fel aelod o staff y trosglwyddai, a

b

i'w drin fel cyflogaeth ddi-dor fel aelod o staff y trosglwyddai at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

5

Ni throsglwyddir contract cyflogaeth (neu'r hawliau, pwerau, dyletswyddau a'r rhwymedigaethau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef) o dan y paragraff hwn os yw'r cyflogai'n gwrthwynebu trosglwyddo ac yn hysbysu'r Bwrdd neu'r trosglwyddai ei fod yn gwrthwynebu.

6

Os yw'r cyflogai'n hysbysu'r Bwrdd neu'r trosglwyddai ei fod yn gwrthwynebu o dan is-baragraff (5)—

a

terfynir y contract cyflogaeth yn union cyn y dyddiad pryd y byddai'r trosglwyddo'n digwydd, ond

b

nid yw'r cyflogai'n cael ei drin, at unrhyw bwrpas, fel pe bai wedi ei ddiswyddo gan y Bwrdd.

7

Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan berson a drosglwyddir i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol (ac eithrio newid cyflogwr) sy'n niweidiol i'r person o ran ei amodau gwaith.

8

Caniateir gwneud darpariaeth o dan is-baragraff (1) mewn cysylltiad â phob person a gyflogir gan y Bwrdd, unrhyw ddosbarth o berson neu berson o unrhyw ddisgrifiad, neu unrhyw berson unigol.

9

Yn y paragraff hwn mae “trosglwyddai” yn cyfeirio at y cyflogwr y trosglwyddir neu y trosglwyddid y person o dan y paragraff hwn i'w gyflogi ganddo.

I92I1042Eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd

1

Heb ragfarnu paragraff 1, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd.

2

Mae'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

a

trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

i

i'r Comisiynydd, neu

ii

i Weinidogion Cymru;

b

trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd i gael effaith yn ddarostyngedig i eithriadau neu neilltuadau;

c

trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau i gael effaith er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (beth bynnag ei natur) a fyddai fel arall yn atal neu'n cyfyngu ar y trosglwyddo;

d

creu buddiannau yn eiddo'r Bwrdd neu eiddo a drosglwyddir oddi wrth y Bwrdd, neu hawliau dros yr eiddo hwnnw;

e

creu hawliau a rhwymedigaethau—

i

rhwng y Bwrdd a'r Comisiynydd, neu

ii

rhwng y Bwrdd a Gweinidogion Cymru.

3

Yn y paragraff hwn—

  • mae “eiddo” (“property”) yn cynnwys eiddo a leolir y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

  • mae “hawliau a rhwymedigaethau” (“rights and liabilities”) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio mewn modd arall ac eithrio o dan gyfraith Cymru a Lloegr.

I93I1343Addasu Deddf 1993 mewn perthynas a swyddogaethau a drosglwyddir i Weinidogion Cymru

Os trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny), nid yw darpariaethau canlynol Deddf 1993 yn gymwys i'r swyddogaethau yn y modd y maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru—

a

adran 3(2)(a);

b

adran 3(3) a (4);

c

adran 4(1).

I94I1354Cyfeiriadau at y Bwrdd

Mae unrhyw gyfeiriad at y Bwrdd yn Neddf 1993 i'w ddehongli—

a

i'r graddau y mae'n ymwneud ag un o swyddogaethau'r Bwrdd a drosglwyddir i'r Comisiynydd, fel pe bai'n gyfeiriad, neu'n cynnwys cyfeiriad, at y Comisiynydd; a

b

i'r graddau y mae'n ymwneud ag un o swyddogaethau'r Bwrdd a drosglwyddir i Weinidogion Cymru, fel pe bai'n gyfeiriad, neu'n cynnwys cyfeiriad, at Weinidogion Cymru.

I95I1365Parhad achosion cyfreithiol, dilysrwydd gweithredoedd etc

1

Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy'n ymwneud ag—

a

swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

b

eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef yn union cyn adeg y trosglwyddo, ei barhau gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.

2

Mae unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef at y dibenion canlynol, neu mewn cysylltiad â'r canlynol—

a

swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

b

eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sy'n effeithiol yn union cyn adeg y trosglwyddo, yn effeithiol ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.

3

Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud ag—

a

swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

b

eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sy'n cael eu gwneud neu eu cychwyn cyn adeg y trosglwyddo, rhodder y trosglwyddai yn lle'r Bwrdd.

4

Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth aelod o staff y Bwrdd.

5

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “adeg y trosglwyddo” (“transfer time”), mewn perthynas â swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd, yw adeg trosglwyddo'r swyddogaeth, neu'r eiddo, neu'r hawliau neu'r rhwymedigaethau;

  • ystyr “eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd” (“transferred property, rights or liabilities”) yw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd a drosglwyddwyd i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru o dan Mesur hwn;

  • ystyr “swyddogaeth a drosglwyddwyd” (“transferred function”) yw un o swyddogaethau'r Bwrdd a drosglwyddwyd i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru o dan Mesur hwn.

I96I1056Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “y Bwrdd” (“Board”) yr ystyr a roddir yn adran 147(5);

  • mae i “Deddf 1993” (“1993 Act”) yr ystyr a roddir yn adran 147(5).