xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 33)

ATODLEN 7Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 8

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
CofnodDisgrifiad o'r personGwasanaeth(au) sydd ar gael
(1)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu).
(a)

Gwasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu).

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(2)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion).
(a)

Gwasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion).

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(3)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau post neu swyddfeydd post.
(a)

Gwasanaethau post neu wasanaethau swyddfeydd post.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(4)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau telathrebu.
(a)

Gwasanaethau telathrebu.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(5)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.
(a)

Addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(6)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.
(a)

Gwasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(7)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.
(a)

Gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(8)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol.
(a)

Gwasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(9)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.Gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.
(10)Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gydag awdurdod cyhoeddus.Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau, a wnaed gyda'r awdurdod cyhoeddus.

Gwasanaethau a ddarperir mewn siopau: eithriadau

1(1)Nid yw cyfeiriadau yn y tabl at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarparir mewn siopau onid yw'r gwasanaethau hynny—

(a)yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu

(b)yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd.

(2)At y diben hwnnw, y canlynol yw'r cyfeiriadau yn y tabl at wasanaethau cysylltiedig—

(a)yng ngholofn (3) ym mhob un o resi (1) i (8) yn y tabl, y cyfeiriadau ym mharagraff (b) bob tro at wasanaethau eraill, a

(b)yng ngholofnau (2) a (3) yn rhes (9) yn y tabl, y cyfeiriadau at wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.

Dehongli

2Yn yr Atodlen hon—