(a gyflwynwyd gan adran 33)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Cofnod | Disgrifiad o'r person | Gwasanaeth(au) sydd ar gael |
(1) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu). | (a) Gwasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu). (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(2) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion). | (a) Gwasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion). (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(3) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau post neu swyddfeydd post. | (a) Gwasanaethau post neu wasanaethau swyddfeydd post. (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(4) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau telathrebu. | (a) Gwasanaethau telathrebu. (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(5) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. | (a) Addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(6) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. | (a) Gwasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(7) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd. | (a) Gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd. (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(8) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol. | (a) Gwasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol. (b) Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a). |
(9) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol. | Gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol. |
(10) | Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gydag awdurdod cyhoeddus. | Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau, a wnaed gyda'r awdurdod cyhoeddus. |
1(1)Nid yw cyfeiriadau yn y tabl at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarparir mewn siopau onid yw'r gwasanaethau hynny—
(a)yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu
(b)yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd.
(2)At y diben hwnnw, y canlynol yw'r cyfeiriadau yn y tabl at wasanaethau cysylltiedig—
(a)yng ngholofn (3) ym mhob un o resi (1) i (8) yn y tabl, y cyfeiriadau ym mharagraff (b) bob tro at wasanaethau eraill, a
(b)yng ngholofnau (2) a (3) yn rhes (9) yn y tabl, y cyfeiriadau at wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 7 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I3Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)
2Yn yr Atodlen hon—
ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—
arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy—
Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
Gweinidogion Cymru;
Senedd y DU;
Gweinidogion y Goron; neu
un neu ragor o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd;
arian a ddarperir yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;
ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998;
ystyr “gwasanaethau bysiau” (“bus services”) yw gwasanaeth rheolaidd â cherbyd gwasanaeth cyhoeddus (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981) i gludo teithwyr am brisiau tocyn ar wahân, ac eithrio gwasanaeth—
y mae capasiti cyfan y cerbyd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw wedi ei brynu gan siartrwr at ei ddefnydd ei hun neu i'w ailwerthu;
sy'n daith neu'n drip a drefnwyd yn breifat gan unrhyw berson sy'n gweithio'n annibynnol ar weithredwr y cerbyd; neu
lle y mae'r teithwyr yn teithio gyda'i gilydd ar daith, gyda seibiannau neu hebddynt, a ph'un ai ar yr un diwrnod ai peidio, o un neu fwy o leoedd i un neu fwy o leoedd ac yn ôl;
ystyr “gwasanaeth sylfaenol” (“primary service”) yw gwasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) yng ngholofn (3) o unrhyw un neu ragor o resi (1) i (8);
ystyr “gwasanaethau post” (“postal services”) yw'r gwasanaeth o gludo llythyrau, parseli, pacedi neu bethau eraill o un man i fan arall drwy'r post a'r gwasanaethau cysylltiedig o dderbyn, casglu, sortio a danfon y cyfryw bethau;
ystyr “gwasanaethau telathrebu” (“telecommunications service”) yw unrhyw wasanaeth sy'n cynnwys darparu mynediad at, neu gyfleusterau i wneud defnydd o, unrhyw system sy'n bod (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall) at y diben o hwyluso trosglwyddo cyfathrebiadau drwy unrhyw fodd sy'n golygu defnyddio ynni trydanol, magnetig neu electromagnetig (gan gynnwys y cyfarpar a geir yn y system), ond nid yw'n cynnwys darlledu, y radio na'r teledu;
ystyr “person neilltuedig” (“qualifying person”) yw person nad yw o fewn Atodlen 6;
ystyr “siop” (“shop”) yw unrhyw fangre, a masnach neu fusnes gwerthu nwyddau yw'r brif fasnach neu'r prif fusnes sy'n cael ei chynnal neu ei gynnal yno.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 7 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I5Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)