xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4AELODAU'R PANEL CYNGHORI

RHAN 1PENODI

Penodi

1(1)Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penodi aelod o'r Panel Cynghori rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 5).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Panel Cynghori.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Panel Cynghori.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy.

Telerau penodi

3(1)Mae aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

Cyfnod y penodiad

4(1)Mae person a benodir yn aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 3 blynedd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen hon.

Rheoliadau Penodi

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau o'r Panel Cynghori (“rheoliadau penodi”).

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi yn cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (3) i (6), ond nid yw'n gyfyngedig iddi.

(3)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi aelod o'r Panel Cynghori.

(4)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwybodaeth o'r Gymraeg, a hyfedredd ynddi, a

(b)gwybodaeth a phrofiad—

(i)o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch, a

(ii)o unrhyw fater arall sy'n berthnasol i unrhyw beth sy'n dod i ran y Comisiynydd i'w wneud,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i aelod o'r Panel Cynghori feddu arno.

(5)Caiff rheoliadau penodi—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(6)Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.