ATODLEN 2YMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

I18Adroddiadau ar ymholiadau

I21

Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad o'i ganfyddiadau ar unrhyw ymholiad.

2

Ni chaniateir i'r adroddiad—

I3a

ei gwneud yn hysbys beth yw'r methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol (o fewn ystyr Rhan 5) gan berson y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, neu

I2b

cyfeirio fel arall at weithgareddau person y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, oni bai bod y Comisiynydd o'r farn—

i

na fyddai'r cyfeiriad yn niweidio'r person, neu

ii

bod y cyfeiriad yn angenrheidiol er mwyn i'r adroddiad adlewyrchu canlyniadau'r ymholiad yn ddigonol (gan ystyried cylch gorchwyl yr ymholiad).

I23

Rhaid i'r Comisiynydd anfon drafft o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

I24

Os yw'r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori o berson, rhaid i'r Comisiynydd hefyd anfon drafft o'r adroddiad at bob person perthnasol.

I25

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

rhoi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall yr anfonir drafft o adroddiad ato, i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft, a

b

ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

I26

Ar ôl setlo'r adroddiad (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (5)), rhaid i'r Comisiynydd ei gyhoeddi.

I27

Nid yw'r paragraff hwn yn effeithio ar F2gymhwyso'r ddeddfwriaeth diogelu data i'r Comisiynydd.

I28

Yn y paragraff hwn—

  • F1mae i “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “the data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o'r Ddeddf honno);

  • mae i “person perthnasol” yr un ystyr ag a roddir ym mharagraff 3.