Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

SylwadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

7(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad—

(a)gan berson—

(i)a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

(ii)sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

(b)gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (a)(i) neu (ii), neu

(c)gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad gan unrhyw berson arall, onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a gyflwynir mewn perthynas ag ymholiad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a gyflwynodd y sylwadau—

(a)y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

(a)person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a

(b)adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)