Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Heb ragfarnu paragraff 1, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd.

(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

(a)trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(i)i'r Comisiynydd, neu

(ii)i Weinidogion Cymru;

(b)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd i gael effaith yn ddarostyngedig i eithriadau neu neilltuadau;

(c)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau i gael effaith er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (beth bynnag ei natur) a fyddai fel arall yn atal neu'n cyfyngu ar y trosglwyddo;

(d)creu buddiannau yn eiddo'r Bwrdd neu eiddo a drosglwyddir oddi wrth y Bwrdd, neu hawliau dros yr eiddo hwnnw;

(e)creu hawliau a rhwymedigaethau—

(i)rhwng y Bwrdd a'r Comisiynydd, neu

(ii)rhwng y Bwrdd a Gweinidogion Cymru.

(3)Yn y paragraff hwn—

  • mae “eiddo” (“property”) yn cynnwys eiddo a leolir y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

  • mae “hawliau a rhwymedigaethau” (“rights and liabilities”) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio mewn modd arall ac eithrio o dan gyfraith Cymru a Lloegr.