xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 2LL+CPENODI

Y LlywyddLL+C

3(1)Dim ond os yw'r person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd—

(a)yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd, a

(b)unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd os yw'r person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

(b)wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n Llywydd ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

(3)Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraithLL+C

4(1)Dim ond os yw person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith—

(a)yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd,

(b)unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith os yw'r person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

(b)wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

(3)Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 11 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Aelodau lleygLL+C

5(1)Dim ond os yw person yn bodloni unrhyw amodau sy'n gymwys i'r penodiad a bennir mewn rheoliadau penodi y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg—

(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd,

(b)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n aelod lleyg ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol, neu

(c)os gellid penodi'r person yn aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 11 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Tâl cydnabyddiaeth etcLL+C

6(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Tribiwnlys.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Tribiwnlys.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 11 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Telerau penodiLL+C

7(1)Mae aelod o'r Tribiwnlys yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 11 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10Atod. 11 para. 7 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Cyfnod y penodiadLL+C

8(1)Mae person a benodir yn aelod o'r Tribiwnlys yn aelod (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 5 mlynedd.

(2)Ond, os yw'n angenrheidiol neu'n hwylus yn nhyb Gweinidogion Cymru, caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys am gyfnod sy'n llai na 5 mlynedd.

(3)Mae'r paragraff hwn yn ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 11 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12Atod. 11 para. 8 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Rheoliadau penodiLL+C

9(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Tribiwnlys (“rheoliadau penodi”).

(2)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch unrhyw un neu ragor o'r materion canlynol—

(a)yr egwyddorion i'w dilyn wrth wneud unrhyw benodiad i'r Tribiwnlys;

(b)gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae'n rhaid i aelodau'r Tribiwnlys feddu arnynt.

(3)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(4)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 11 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14Atod. 11 para. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(l)