xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 2LL+CPENODI

Rheoliadau penodiLL+C

9(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Tribiwnlys (“rheoliadau penodi”).

(2)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch unrhyw un neu ragor o'r materion canlynol—

(a)yr egwyddorion i'w dilyn wrth wneud unrhyw benodiad i'r Tribiwnlys;

(b)gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae'n rhaid i aelodau'r Tribiwnlys feddu arnynt.

(3)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(4)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 11 para. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(l)