ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
RHAN 2PENODI
I1I29Rheoliadau penodi
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Tribiwnlys (“rheoliadau penodi”).
2
Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch unrhyw un neu ragor o'r materion canlynol—
a
yr egwyddorion i'w dilyn wrth wneud unrhyw benodiad i'r Tribiwnlys;
b
gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae'n rhaid i aelodau'r Tribiwnlys feddu arnynt.
3
Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill—
a
cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu
b
gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.
4
Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.