xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Tribiwnlys.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Tribiwnlys.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)