ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
RHAN 1NIFER AELODAU'R TRIBIWNLYS
1Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith
1
Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ddyfarnu nifer yr aelodau sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith y mae'r Tribiwnlys i'w cael.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori รข'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.
3
I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau o'r Tribiwnlys ac sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.