xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan adran 71.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)
2(1)Cyn cynnal ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl yr ymchwiliad.
(2)Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu—
(a)y person yr ymchwilir iddo (“D”),
(b)y methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.
(3)Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—
(a) rhoi hysbysiad am y cylch gorchwyl arfaethedig—
(i)i D, a
(ii)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant,
(b)rhoi cyfle i bob person y rhoddir hysbysiad iddo ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig i wneud sylwadau ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig, ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.
(4)Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—
(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn modd sy'n debygol, yn nhyb y Comisiynydd, o ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae a wnelo'r ymchwiliad â hwy neu bersonau sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a
(b)hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—
(i)D, a
(ii)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.
(5)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol gweler a. 156(2)
I4Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)
3(1)Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau i wneud sylwadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.
(2)Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol i wneud sylwadau yn ystod ymchwiliad—
(a)D, a
(b)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.
(3)Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys, ymhlith pethau eraill, drefniadau ar gyfer sylwadau llafar.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I6Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)
4(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad—
(a)gan D, neu
(b)gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran D.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad gan unrhyw berson arall onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.
(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a wnaeth y sylwadau—
(a)y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(4)Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—
(a)person sydd, at ddibenion Deddf y Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu
(b)adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I8Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)