ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
RHAN 1CYFFREDINOL
3Sylwadau
1
Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau i wneud sylwadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.
2
Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol i wneud sylwadau yn ystod ymchwiliad—
a
D, a
b
unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.
3
Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys, ymhlith pethau eraill, drefniadau ar gyfer sylwadau llafar.