ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG

(a gyflwynwyd gan adran 2)

RHAN 1STATWS ETC

I21I21Statws

1

Mae'r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

2

Nid yw'r Comisiynydd i'w ystyried yn was neu'n asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

3

Nid yw eiddo'r Comisiynydd i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal gan neu ar ran y Goron.

4

Wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â'r Comisiynydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo'n rhesymol bosibl wrth iddo benderfynu—

a

ar ei weithgareddau,

b

ar ei amserlenni, ac

c

ar ei flaenoriaethau.

I32I272Dilysrwydd gweithredoedd

1

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

a

y person hwnnw, neu

b

unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

2

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy'n arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

a

y person hwnnw,

b

y Comisiynydd, neu

c

unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

RHAN 2PENODI

I15I53Penodi

1

Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

a

rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

b

rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

c

caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

a

os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

b

os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

3

Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

a

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

b

pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

c

aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

I39I234Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i'r Comisiynydd.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i'r Comisiynydd.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau a fu'n Gomisiynydd neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n Gomisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

I42I75Telerau penodi

1

Mae'r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

3

Rhaid i delerau penodi'r Comisiynydd ddarparu ei fod yn dal y swydd yn llawnamser.

I9I186Cyfnod y penodiad

1

Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 7 mlynedd.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

I11I47Rheoliadau penodi

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).

2

Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—

a

cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a

b

gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.

3

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

4

Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.

5

Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—

a

gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a

b

gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.

6

Caiff rheoliadau penodi—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

7

Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

I12I298Dirprwyo swyddogaethau penodi etc

1

Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—

a

darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—

i

swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a

ii

unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a

b

gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

RHAN 3TERFYNU PENODIAD

I25I39Ymddiswyddo

Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Brif Weinidog Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.

I26I1410Anghymhwyso

Mae person yn peidio â bod yn Gomisiynydd os yw'n cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth.

I20I4111Diswyddo

Caiff Prif Weinidog Cymru ddiswyddo'r Comisiynydd os yw Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni o ran y Comisiynydd—

a

nad yw'n ffit i barhau fel Comisiynydd, neu

b

nad yw'n gallu neu nad yw'n fodlon arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

I10I3112Taliadau pan fydd yn peidio â dal y swydd

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson sy'n peidio â dal swydd Comisiynydd os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael y taliad yn iawndal.

RHAN 4ANGHYMHWYSO RHAG BOD YN GOMISIYNYDD

I16I613

Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth os yw'r person—

a

yn Aelod Seneddol;

b

yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

c

yn aelod o gyngor sir, o gyngor bwrdeistref sirol neu o gyngor cymuned yng Nghymru;

d

yn aelod o'r Tribiwnlys;

e

yn aelod o'r Panel Cynghori;

f

yn berson sy'n cael ei gyflogi gan berson sy'n dod o fewn Atodlen 5 neu Atodlen 7, neu sy'n cynghori'r person hwnnw;

g

yn aelod o staff y Comisiynydd.

RHAN 5MATERION ARIANNOL

I34I2814Taliadau gan Weinidogion Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru dalu i'r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â gwariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.

I30I815Blwyddyn ariannol

1

Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

a

y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

b

yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

2

Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Comisiynydd yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

3

Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 2 i rym.

I35I4016Swyddog cyfrifyddu

1

Y Comisiynydd yw'r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd.

2

Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid swyddfa'r Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Trysorlys.

3

Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

a

cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,

b

cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd, ac

c

cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiynydd.

4

Mae'r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfrifoldebau sy'n ddyledus i'r canlynol—

a

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

b

Tŵ'r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŵ hwnnw.

5

Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin (“y Pwyllgor Seneddol”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Seneddol,

b

cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Seneddol ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

c

trosglwyddo'r dystiolaeth a gymerwyd i'r Pwyllgor Seneddol.

6

Mae adran 13 o Ddeddf Archwiliadau Cenedlaethol 1983 (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn yn yr un modd ag y mae'n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

7

Yn y paragraff hwn ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

I1I1717Amcangyfrifon

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio'r un gyntaf, rhaid i'r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant swyddfa'r Comisiynydd.

2

Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â'r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r addasiadau (os oes rhai) sy'n briodol yn eu tyb hwy.

4

Yn is-baragraff (1) ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

I38I3318Cyfrifon

1

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

cadw cofnodion cyfrifyddol priodol, a

b

llunio cyfrifon o ran pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddiadau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

2

Mae'r cyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfarwyddiadau o ran—

a

yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cyfrifon a'r modd y mae'r cyfrifon i'w cyflwyno;

b

y dulliau a'r egwyddorion y mae'r cyfrifon i'w llunio yn unol â hwy;

c

gwybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda'r cyfrifon.

I19I2219Archwilio

1

Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

2

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

a

archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

b

heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â'i adroddiad arnynt.

3

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymysg pethau eraill, wrth archwilio'r cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ei fodloni ei hun fod y gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi cael ei dynnu'n gyfreithiol ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.

I24I3720Archwilio'r defnydd o adnoddau

1

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth i swyddogaethau'r Comisiynydd gael eu cyflawni.

2

Nid yw is-baragraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi'r Comisiynydd.

3

Wrth benderfynu sut i arfer y swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran yr archwiliadau y dylai eu cyflawni.

4

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad o ganlyniadau unrhyw archwiliad a gyflawnwyd o dan y paragraff hwn.

RHAN 6CYFFREDINOL

I13I3621Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “panel dethol” (“selection panel”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 7;

  • ystyr “rheoliadau penodi” (“appointment regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 7.