ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 2PENODI

3Penodi

1

Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

a

rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

b

rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

c

caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

a

os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

b

os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

3

Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

a

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

b

pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

c

aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

4Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i'r Comisiynydd.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i'r Comisiynydd.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau a fu'n Gomisiynydd neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n Gomisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

5Telerau penodi

1

Mae'r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

3

Rhaid i delerau penodi'r Comisiynydd ddarparu ei fod yn dal y swydd yn llawnamser.

6Cyfnod y penodiad

1

Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 7 mlynedd.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

7Rheoliadau penodi

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).

2

Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—

a

cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a

b

gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.

3

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

4

Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.

5

Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—

a

gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a

b

gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.

6

Caiff rheoliadau penodi—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

7

Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

8Dirprwyo swyddogaethau penodi etc

1

Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—

a

darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—

i

swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a

ii

unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a

b

gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.