Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

RHAN 1STATWS ETC

Statws

1(1)Mae'r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw'r Comisiynydd i'w ystyried yn was neu'n asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(3)Nid yw eiddo'r Comisiynydd i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal gan neu ar ran y Goron.

(4)Wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â'r Comisiynydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo'n rhesymol bosibl wrth iddo benderfynu—

(a)ar ei weithgareddau,

(b)ar ei amserlenni, ac

(c)ar ei flaenoriaethau.

Dilysrwydd gweithredoedd

2(1)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw, neu

(b)unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

(2)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy'n arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw,

(b)y Comisiynydd, neu

(c)unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.