ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG
RHAN 5MATERION ARIANNOL
I1I219Archwilio
1
Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.
2
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
a
archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a
b
heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â'i adroddiad arnynt.
3
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymysg pethau eraill, wrth archwilio'r cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ei fodloni ei hun fod y gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi cael ei dynnu'n gyfreithiol ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.