xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Materion gweinyddol

129Y sêl

(1)Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.

(2)Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.

130Y flwyddyn ariannol

(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.

131Swydd y Llywydd yn wag

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.

(3)Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.