Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiadLL+C

132Adroddiad blynyddol y LlywyddLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—

(a)llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 132 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 132 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r TribiwnlysLL+C

(1)Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.

(2)Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 133 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 133 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(j)