RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiad
I4I1132Adroddiad blynyddol y Llywydd
1
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—
a
llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a
b
gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2
Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.
I3I2133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r Tribiwnlys
1
Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.
2
Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.