RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 8CYFFREDINOL
Rhwystro a dirmygu
I4I6107Rhwystro a dirmygu
1
Os bodlonir y Comisiynydd fod yr amod yn is-adran (2) wedi cael ei fodloni o ran person, caiff y Comisiynydd ddyroddi tystysgrif i'r perwyl hwnnw i'r Uchel Lys.
2
Yr amod yw bod y person—
a
heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Rhan hon, neu
b
wedi cyflawni gweithred o ran ymchwiliad o dan adran 71 a fyddai, pe bai'r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn ddirmyg llys.
3
Os yw'r Comisiynydd yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i'r mater.
4
Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi trin y person pe bai'r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.
Dogfen polisi gorfodi
I8I3108Dogfen polisi gorfodi
1
Rhaid i'r Comisiynydd lunio dogfen polisi gorfodi.
2
Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi.
3
Dogfen yw dogfen polisi gorfodi sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth ar y ffordd y mae'r Comisiynydd yn bwriadu mynd ati i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Rhan hon.
4
Ni chaniateir i'r Comisiynydd lunio neu ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
5
Rhaid i'r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
6
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r ddogfen polisi gorfodi yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y ddogfen.
Cofrestr camau gorfodi
I1I2109Cofrestr camau gorfodi
1
Rhaid i'r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr camau gorfodi.
2
Rhaid i'r gofrestr camau gorfodi gynnwys yr oll o'r canlynol—
a
disgrifiad o bob ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef gan y Comisiynydd;
b
o ran pob ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef, yr wybodaeth a ganlyn fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad ar yr ymchwiliad—
i
canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;
ii
dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio;
iii
y datganiad sy'n nodi a weithredodd y Comisiynydd ymhellach ai peidio;
iv
os gweithredodd y Comisiynydd ymhellach, datganiad ar y gweithredu hwnnw;
c
o ran pob ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef, manylion am unrhyw hysbysiad penderfynu a roddwyd;
d
manylion apelau a wnaed i'r Tribiwnlys o dan Bennod 4 (gan gynnwys penderfyniadau a wnaed gan y Tribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).
3
Rhaid i'r Comisiynydd ddiweddaru'r gofrestr camau gorfodi'n barhaus.
4
Rhaid i'r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o'r gofrestr camau gorfodi ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o'r gofrestr camau gorfodi ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
5
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r gofrestr camau gorfodi yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y gofrestr.
6
Yn yr adran hon ystyr “ymchwiliad” yw ymchwiliad o dan adran 71.
Dehongli
I7I5110Dehongli
Yn y Rhan hon—
ystyr “camau gorfodi” (“enforcement action”), mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 71, yw un neu ragor o'r canlynol—
- a
ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu at ddiben atal methiant D rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
- b
ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at ddiben atal methiant D rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
- c
rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;
- d
ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant;
- e
gosod cosb sifil ar D;
- a
ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”) mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 71 yw—
- a
D, a
- b
os yw'r ymchwiliad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran 93, y person a wnaeth y gŵyn.
- a