RHAN 4SAFONAU
PENNOD 9CYFFREDINOL
Eithrio darlledu
67Eithrio darlledu
(1)
Nid yw'r Mesur hwn—
(a)
yn ei gwneud yn ofynnol, na
(b)
yn awdurdodi person i'w gwneud yn ofynnol,
i berson gydymffurfio â safon os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno, yn ymwneud â darlledu.
(2)
Yn yr adran hon—
(a)
ystyr “darlledu” yw comisiynu, cynhyrchu, amserlennu, trawsyrru neu ddosbarthu rhaglenni (gan gynnwys hysbysebion, is-deitlau, cyhoeddiadau cyswllt a theletestun), gwasanaethau mynediad, rhyngweithgarwch, cynnwys ar-lein ac allbwn arall tebyg ei natur ar gyfer y teledu, y radio, y rhyngrwyd neu lwyfannau ar-lein neu ddi-wifr eraill;
(b)
ond nid yw cyfeiriadau at ddarlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu (onid darlledu yw'r gweithgaredd ei hun).
Codau ymarfer
68Codau ymarfer
(1)
Caiff y Comisiynydd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) (“codau ymarfer safonau”).
(2)
Caiff y Comisiynydd adolygu codau ymarfer safonau neu eu tynnu'n ôl.
(3)
Rhaid i'r Comisiynydd beidio â dyroddi, adolygu neu dynnu'n ôl god ymarfer safonau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
(4)
Cyn ceisio'r cydsyniad hwnnw, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—
(a)
â'r personau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau y mae'r cod ymarfer yn ymwneud â hi neu â hwy, a
(b)
â'r Panel Cynghori.
(5)
Pan fo cod ymarfer yn cael ei ddyroddi gan y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd hefyd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig—
(a)
sy'n nodi pa god sydd dan sylw ac sy'n datgan dyddiad y dyroddi, a
(b)
sy'n pennu safon neu safonau y mae'r cod yn ymwneud â hi neu â hwy.
(6)
Pan fo'r Comisiynydd yn tynnu cod ymarfer yn ôl, rhaid i'r Comisiynydd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r cod dan sylw ac yn datgan y dyddiad y mae'r cod i beidio â bod yn effeithiol.
69Methiant i gydymffurfio â chodau
(1)
Nid yw methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwywyd yn peri i'r person hwnnw fod yn agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.
(2)
Ond os cymerir unrhyw gamau o dan y Mesur hwn mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”)—
(a)
caniateir dibynnu ar fethiant P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau bod P yn atebol am y methiant safonau honedig, a
(b)
caniateir dibynnu ar gydymffurfedd â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.
(3)
Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god ymarfer a gymeradwywyd yn gyfeiriadau—
(a)
at god ymarfer safonau fel y mae'n effeithiol am y tro, a
(b)
pan fo cod ymarfer safonau wedi ei adolygu, at y cod hwnnw fel y'i hadolygwyd fel y mae'n effeithiol am y tro.
Dehongli
70Dehongli
(1)
Yn y Rhan hon—
(a)
mae cyfeiriadau at fod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau i'w darllen yn unol ag adran 33;
(b)
mae cyfeiriadau at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 i'w darllen yn unol ag adran 34;
(c)
mae cyfeiriadau at fod safon yn gymwysadwy i berson i'w darllen yn unol ag adrannau 36 a 37;
(d)
mae cyfeiriadau at fod safon yn benodol gymwys i berson i'w darllen yn unol ag adran 39.