xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4SAFONAU

PENNOD 9CYFFREDINOL

Eithrio darlledu

67Eithrio darlledu

(1)Nid yw'r Mesur hwn—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol, na

(b)yn awdurdodi person i'w gwneud yn ofynnol,

i berson gydymffurfio â safon os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno, yn ymwneud â darlledu.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darlledu” yw comisiynu, cynhyrchu, amserlennu, trawsyrru neu ddosbarthu rhaglenni (gan gynnwys hysbysebion, is-deitlau, cyhoeddiadau cyswllt a theletestun), gwasanaethau mynediad, rhyngweithgarwch, cynnwys ar-lein ac allbwn arall tebyg ei natur ar gyfer y teledu, y radio, y rhyngrwyd neu lwyfannau ar-lein neu ddi-wifr eraill;

(b)ond nid yw cyfeiriadau at ddarlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu (onid darlledu yw'r gweithgaredd ei hun).

Codau ymarfer

68Codau ymarfer

(1)Caiff y Comisiynydd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) (“codau ymarfer safonau”).

(2)Caiff y Comisiynydd adolygu codau ymarfer safonau neu eu tynnu'n ôl.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd beidio â dyroddi, adolygu neu dynnu'n ôl god ymarfer safonau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4)Cyn ceisio'r cydsyniad hwnnw, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â'r personau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau y mae'r cod ymarfer yn ymwneud â hi neu â hwy, a

(b)â'r Panel Cynghori.

(5)Pan fo cod ymarfer yn cael ei ddyroddi gan y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd hefyd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)sy'n nodi pa god sydd dan sylw ac sy'n datgan dyddiad y dyroddi, a

(b)sy'n pennu safon neu safonau y mae'r cod yn ymwneud â hi neu â hwy.

(6)Pan fo'r Comisiynydd yn tynnu cod ymarfer yn ôl, rhaid i'r Comisiynydd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r cod dan sylw ac yn datgan y dyddiad y mae'r cod i beidio â bod yn effeithiol.

69Methiant i gydymffurfio â chodau

(1)Nid yw methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwywyd yn peri i'r person hwnnw fod yn agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.

(2)Ond os cymerir unrhyw gamau o dan y Mesur hwn mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”)—

(a)caniateir dibynnu ar fethiant P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau bod P yn atebol am y methiant safonau honedig, a

(b)caniateir dibynnu ar gydymffurfedd â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god ymarfer a gymeradwywyd yn gyfeiriadau—

(a)at god ymarfer safonau fel y mae'n effeithiol am y tro, a

(b)pan fo cod ymarfer safonau wedi ei adolygu, at y cod hwnnw fel y'i hadolygwyd fel y mae'n effeithiol am y tro.

Dehongli

70Dehongli

(1)Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at fod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau i'w darllen yn unol ag adran 33;

(b)mae cyfeiriadau at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 i'w darllen yn unol ag adran 34;

(c)mae cyfeiriadau at fod safon yn gymwysadwy i berson i'w darllen yn unol ag adrannau 36 a 37;

(d)mae cyfeiriadau at fod safon yn benodol gymwys i berson i'w darllen yn unol ag adran 39.