xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4SAFONAU

PENNOD 9CYFFREDINOL

Codau ymarfer

68Codau ymarfer

(1)Caiff y Comisiynydd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) (“codau ymarfer safonau”).

(2)Caiff y Comisiynydd adolygu codau ymarfer safonau neu eu tynnu'n ôl.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd beidio â dyroddi, adolygu neu dynnu'n ôl god ymarfer safonau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4)Cyn ceisio'r cydsyniad hwnnw, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â'r personau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau y mae'r cod ymarfer yn ymwneud â hi neu â hwy, a

(b)â'r Panel Cynghori.

(5)Pan fo cod ymarfer yn cael ei ddyroddi gan y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd hefyd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)sy'n nodi pa god sydd dan sylw ac sy'n datgan dyddiad y dyroddi, a

(b)sy'n pennu safon neu safonau y mae'r cod yn ymwneud â hi neu â hwy.

(6)Pan fo'r Comisiynydd yn tynnu cod ymarfer yn ôl, rhaid i'r Comisiynydd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r cod dan sylw ac yn datgan y dyddiad y mae'r cod i beidio â bod yn effeithiol.

69Methiant i gydymffurfio â chodau

(1)Nid yw methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwywyd yn peri i'r person hwnnw fod yn agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.

(2)Ond os cymerir unrhyw gamau o dan y Mesur hwn mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”)—

(a)caniateir dibynnu ar fethiant P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau bod P yn atebol am y methiant safonau honedig, a

(b)caniateir dibynnu ar gydymffurfedd â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god ymarfer a gymeradwywyd yn gyfeiriadau—

(a)at god ymarfer safonau fel y mae'n effeithiol am y tro, a

(b)pan fo cod ymarfer safonau wedi ei adolygu, at y cod hwnnw fel y'i hadolygwyd fel y mae'n effeithiol am y tro.