RHAN 4SAFONAU
PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU
Adroddiadau safonau
I1I264Adroddiad safonau
1
Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad safonau.
2
Dogfen sy'n nodi'r canlynol yw adroddiad safonau—
a
casgliadau'r ymchwiliad safonau, a
b
rhesymau'r Comisiynydd dros ddod i'r casgliadau hynny.
3
Os—
a
casgliadau'r ymchwiliad (boed yn llwyr neu'n rhannol) yw y dylai safonau fod yn benodol gymwys i P, a
b
nad yw unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r safonau hynny wedi ei phennu neu eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1),
rhaid i'r adroddiad nodi'r safonau sydd heb eu pennu.
4
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad safonau—
a
rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad—
i
at bob person perthnasol,
ii
at y Panel Cynghori,
iii
at bob person a gymerodd ran yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn unol ag adran 63, a
iv
at Weinidogion Cymru, a
b
caiff y Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson arall a chanddo ddiddordeb yn yr adroddiad ym marn y Comisiynydd.
5
Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—
a
yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;
b
yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—
i
yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a
ii
y mae'n briodol anfon copi o'r adroddiad atynt yn nhyb y Comisiynydd.